Y Bywgraffiadur Cymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bywgraffiadur Cymreig)
Jump to navigation Jump to search
Y Bywgraffiadur Cymreig
Bywgraffiadur Cymru.PNG
URL https://bywgraffiadur.cymru/
Math o wefan Bywgraffiadau o Gymry
Ieithoedd ar gael Cymraeg a Saesneg
Perchennog Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Crëwyd gan nifer
Lansiwyd ar 1953


Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970
- Gydag Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950  
Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, Y - Gydag Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 (llyfr).jpg
Awdur E.D. Jones a Brynley F. Roberts (gol'n)
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Cyfres Trydydd allan o 3
Pwnc (pynciau) Bywgraffiadau
Cyhoeddwr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Dyddiad cyhoeddi 01 Gorffennaf 1997
Math o gyfrwng clawr caled
Tudalennau 319
ISBN 9780900439865
Rhagfl'd gan 'Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940
Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'
Dilynwyd gan Y Bywgraffiadur Ar-lein
Dyma'r fersiwn olaf i'w hargraffu.
Argaeledd mewn print

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig  yn cynnwys bywgraffiadau o bobl ar hyd yr oesoedd y mae eu cyfraniad neu'u hamlygrwydd wedi llunio rhyw agwedd ar fywyd Cymru, yn cynnwys cyfraniadau'r Cymry ar draws y byd.  Mae’n waith cyfeiriadol academaidd cynhwysfawr, awdurdodol, safonol a hygyrch, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr o bob cefndir.


Hanes y Bywgraffiadur Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd Y Bywgraffiadur Cymreig yn wreiddiol gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion mewn tair cyfrol Gymraeg a dwy gyfrol Saesneg yn cwmpasu hanes pobl Cymru hyd at 1970:

Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940, gol. John Edward Lloyd ac R. T. Jenkins (Llundain, 1953)

The Dictionary of Welsh Biography down to 1940, ed. John Edward Lloyd and R. T. Jenkins (London, 1959)

Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, gol. R. T. Jenkins ac E. D. Jones (Llundain, 1970)

Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, gol. E. D. Jones a Brynley F. Roberts (Llundain, 1997)

The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970, ed. R. T. Jenkins, E. D. Jones and Brynley F. Roberts (London, 2001)

Penderfynodd y Cymmrodorion ddechrau ar y gwaith o baratoi geiriadur bywgraffyddol Cymreig yn 1938, a phenodwyd Syr J. E. Lloyd yn Olygydd ac R. T. Jenkins yn gynorthwywr iddo. Rhoddwyd y cynllun heibio dros dro yn ystod blynyddoedd cyntaf y rhyfel, a phan ailgydiwyd yn y gwaith tua diwedd 1943 dewisodd Syr J. E. Lloyd weithredu fel Golygydd Ymgynghorol, gyda R. T. Jenkins yn Olygydd. Pan fu farw J. E. Lloyd yn 1947 penodwyd Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, Syr William Llewelyn Davies, yn Gydolygydd. Bu dau Lyfrgellydd arall yn Olygyddion yn eu tro, sef Dr E. D. Jones (1965-1987) a Dr Brynley F. Roberts (1987-2013). Yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yw'r Golygydd ar hyn o bryd, gyda Dr Marion Löffler, Prifysgol Caerdydd, yn Olygydd Cynorthwyol.

Pwy sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig?[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel arfer, cynhwysir pobl sydd wedi cyrraedd amlygrwydd neu wedi gwneud cyfraniad arbennig neu arloesol yn eu meysydd, yn arbennig os yw eu cyfraniad yn barhaus ac ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.

Gellir cynnwys pobl a aned yng Nghymru, lle bynnag y gwnaethant eu cyfraniad. Mae hyn yn gallu cynnwys pobl a adawodd Gymru yn ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn mannau eraill. Eto i gyd, ni raid cynnwys rhai a ddigwyddodd gael eu geni yng Nghymru.

Gellir cynnwys pobl a aned y tu allan i Gymru, a wnaeth gyfraniad arwyddocaol i fywyd Cymru, neu yn eu meysydd tra buont yn byw yng Nghymru. Gall hyn gynnwys pobl a ddaeth i fyw yng Nghymru ac a wnaeth waith pwysig yma, neu a dreuliodd gyfnodau arwyddocaol yma, neu hyd yn oed rhai a gyfrannodd i ddiwylliant Cymru heb fyw yma erioed.

Nid yw tras Gymreig ynddi'i hun yn ddigon o faen prawf, oni bai fod hunaniaeth Gymreig yr unigolyn dan sylw yn amlwg yn bwysig yn ei g/yrfa.

Cedwir lle ar gyfer rhai a gyfrannodd yn eu cylchoedd lleol yn bennaf, yn enwedig y rhai a gafodd lai o gyfleoedd nag eraill i ennill amlygrwydd ehangach, ac os nad yw rhywrai'n ddigon pwysig i gyfiawnhau cofnodion unigol, gellid eu cynnwys mewn erthygl thematig ar fudiad neu grŵp.

Nid oes rhaid i gyfraniad unigolyn fod yn gwbl gonfensiynol neu hyd yn oed yn gadarnhaol.

Ni chyhoeddir erthyglau tan o leiaf tair blynedd ar ôl i'r unigolyn farw.


Pa wybodaeth sydd yn y Bywgraffiadur Cymreig ar gyfer pob unigolyn?[golygu | golygu cod y dudalen]

Amcan pob erthygl yw egluro pwy oedd yr unigolyn, eu pwysigrwydd, a'u perthynas â Chymru. Mae pob erthygl yn cael ei ymchwilio'n llawn, a'r ffeithiau'n cael eu dilysu hyd y gellir. Nid molawdau mo'r erthyglau, ond asesiadau gonest o gyfraniad y gwrthrych, gan gydnabod gwendidau a methiannau yn ogystal â champau. Hyd y bo modd, dylai'r wybodaeth ym mhob erthygl gynnwys manylion am:

  • enw llawn y gwrthrych ac unrhyw ffugenwau, gan gynnwys ffurf fwyaf cyffredin yr enw, yn ogystal ag unrhyw enw barddol, enw proffesiynol, talfyriadau a llysenwau;
  • dyddiadau geni, marw a chladdu/amlosgi;
  • lleoedd a gysylltir â'r unigolyn (e.e. man geni, bedyddio, preswyliad, addysg, cyflogaeth, priodi, marw, claddu/amlosgi, gwasgaru llwch, ac ati);
  • cymeriad yr unigolyn (personoliaeth, pryd a gwedd);
  • aelodau teulu (tad, mam, brodyr a chwiorydd, priod/cymar, plant);
  • gyrfa'r unigolyn (addysg, galwedigaeth, swyddi, penodiadau, anrhydeddau, ac ati);
  • cyraeddiadau a chynhysgaeth - barn gytbwys am arwyddocâd cyfraniad y gwrthrych, gan amlinellu pam bod yr unigolyn yn haeddu cael ei g/chofio;
  • achos marwolaeth;
  • ffynonellau'r erthygl, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, ffynonellau llafar, ysgrifau coffa, bywgraffiadau a thrafodaethau safonol, cyfeiriadau at ddarluniau neu gerfluniau o'r gwrthrych, defnyddiau ffilm a sain, a chasgliadau o archifau a phapurau.


Datblygu gwefan y Bywgraffiadur Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2001, sefydlodd y Llyfrgell Genedlaethol brosiect, dan arweiniad Alwyn Owen,  a gyda chaniatâd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, cyhoeddwyr y cyfrolau printiedig, i fynd ati i drosi’r  cyfrolau print i ffurf electronig. Penodwyd cwmni TechBooks Inc. Maryland, UDA a Delhi, India i’w trosi.  Penodwyd Morfudd Nia Jones yn Olygydd Cynnwys Digidol i’w hamgodio'n drylwyr i safon TEI P3 a addaswyd ar gyfer ein anghenion unigryw.

Yn 2004[1] cyhoeddwyd fersiwn electronig o’r Bywgraffiadur Cymreig a oedd yn seiliedig ar ffurf y cyfrolau print, gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi Anastasia (http://www.sd-editions.com/anastasia/index.html) i arddangos y cynnwys arlein. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i anghenion y defnyddwyr hynny a oedd yn gyfarwydd â'r Bywgraffiadur yn ei ffurf brintiedig, ac fe amgodiwyd y testun yn y fath ffordd fel ei bod yn bosib ei ddarllen a’i drafod arlein fel llyfr electronig, neu fel erthyglau unigol. Gan mai’r bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno’r cyfrolau mewn ffurf electronig, ni wnaed unhryw waith ar gywiro’r gwallau yn y testun.

Yn 2007, yn dilyn problemau technegol, ail-wampiodd y Llyfrgell Genedlaethol y wefan, gan rannu’r ffeil TEI wreiddiol yn ffeiliau XML unigol ar gyfer pob erthygl, a’u harddangos gan ddefnyddio fframwaith cocoon. Crewyd y  ffwythiant chwilio drwy ddefnyddio cynllun Apache arall sef Lucene a’r cyfan yn byw ar weinydd Apache Tomcat. Cychwynwyd hefyd ychwanegu erthyglau am unigolion a fu farw ers 1970. Ar-lein yn unig y cyhoeddwyd y Bywgraffiadur ers hynny.

Ers 2014, cynhelir a datblygir y wefan gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar y cyd, gyda chefnogaeth y Cymmrodorion.

Yn ystod 2018[2], uwchraddiwyd y wefan ac mae bellach yn cynnwys dyluniad, ffwythiannau a chynnwys newydd. Troswyd yr holl amgodio i safon TEI P5. Datblygwyd y wefan newydd gyda chymorth nawdd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bwriedir cyfoethogi'r Bywgraffiadur trwy ei wneud yn amlgyfryngol, gyda delweddau, sain a fideo, a'i wneud yn adnodd addas ar gyfer sianelau'r cyfryngau cymdeithasol.


Gwefan y Bywgraffiadur Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig yn darparu mynediad am ddim i ryw 5,000 o erthyglau bywgraffyddol cryno yn Gymraeg a Saesneg, pob un wedi'i ymchwilio a'i ysgrifennu gan awdur arbenigol a enwir yn y testun, am bobl ar hyd yr oesoedd y mae eu cyfraniad neu'u hamlygrwydd wedi llunio rhyw agwedd ar fywyd Cymru, yn cynnwys cyfraniadau'r Cymry ar draws y byd.

Mae'r gwrthrychau'n cynrychioli ystod eang iawn o weithgareddau, yn cynnwys crefydd, llenyddiaeth a'r celfyddydau, llywodraeth a gwleidyddiaeth, addysg ac ysgolheictod, y gyfraith, gwyddoniaeth a thechnoleg, diwydiant, economeg a masnach, amaethyddiaeth a thirfeddiannu, y lluoedd arfog, chwaraeon, fforio, dyngarwch, a mwy.

Ers 2004 mae’r golygyddion wedi parhau i gomisiynu erthyglau newydd am unigolion a fu farw ers 1970, ac i lenwi bylchau yn y cyfrolau gwreiddiol.  Diweddarir y gronfa ddata yn rheolaidd, gan flaenoriaethu erthyglau sydd fwyaf angen eu cynnwys neu'u diwygio. Mae'r ymdriniaeth yn ymestyn yn raddol er mwyn:

  • cynnwys pobl a fu farw yn ddiweddar;
  • llenwi bylchau, yn arbennig ar gyfer y degawdau ers 1970;
  • gwella cydbwysedd y Bywgraffiadur mewn meysydd nad ydynt wedi derbyn cymaint o sylw ag eraill yn hanesyddol (e.e. gwyddoniaeth, chwaraeon, ac yn arbennig merched);
  • adolygu erthyglau hŷn yng ngoleuni ysgolheictod a safonau academaidd modern.

Mae dolenni o fewn erthyglau yn darparu croesgyfeiriadau i erthyglau perthnasol am aelodau teulu, cydweithwyr a chyfeillion.

Ychwanegir dolenni hefyd i wefannau eraill sy’n cynnig gwybodaeth ychwanegol am yr unigolyn – ee erthyglau Wicipedia, casgliadau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, clipiau ffilm Archif Sgrin a Sain Cymru, casgliadau’r Amgueddfa Genedlaethol, data’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Wikidata.

Yn Awst 2016 crewyd cyfrif Trydar @Bywgraffiadur sy’n trydar yn ddyddiol am digwyddiadau am gynnwys erthyglau, hysbysebu erthyglau newydd ac unrhyw newyddion perthnasol arall.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Historical who's who goes online" (yn en-GB). 2004-08-24. http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/mid_/3593598.stm.
  2. "Lansio'r Bywgraffiadur Cymreig ar ei newydd wedd, ar-lein". Golwg360. 2018-11-06. Cyrchwyd 2019-09-02.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]