Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970

Oddi ar Wicipedia
Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddE.D. Jones a Brynley F. Roberts
CyhoeddwrAnrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
PwncBywgraffiadau
Argaeleddmewn print
ISBN9780900439865
Tudalennau319 Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyd Y Bywgraffiadur Cymreig gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion mewn tair cyfrol Gymraeg a dwy gyfrol Saesneg sy’n cwmpasu holl hanes y Cymry amlwg a fu farw cyn y flwyddyn 1970.

Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres, a'r gyfrol olaf i'w hargraffu. Casglwyd mwyafrif yr erthyglau gan y golygydd E. D. Jones cyn ei farwolaeth, a chwblhawyd y gwaith gan y golygydd newydd Brynley F. Roberts. Mae'r gyfrol yn cynnwys bywgraffiadau cryno am y Cymry a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach ac a fu farw rhwng y blynyddoedd 1951 a 1970. Mae hefyd yn cynnwys atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a gyhoeddodd y gyfrol ar 01 Gorffennaf 1997. Roedd y gyfrol dal mewn print yn 2013.[1]

Lansiwyd fersiwn electronig dwyieithog Y Bywgraffiadur Cymreig[2] gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2007, sy’n cynnwys yr holl erthyglau o’r 3 cyfrolau print Cymreig, y 2 gyfrol Saesneg, ac erthyglau newydd am bobl a oedd heb eu cynnwys yn y cyfrolau gwreiddiol, a hefyd bobl a fu farw wedi 1970. Ar lein yn unig y cyhoeddir y Bywgraffiadur erbyn hyn, ac mae’n adnodd cwbl ddwyieithog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. "Y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. 2007. Cyrchwyd 27 Medi 2017.