William Llewelyn Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Syr William Llewelyn Davies (11 Hydref 1887 - 11 Tachwedd 1952) yn ysgolfeistr a llyfrgellydd cenedlaethol. Ganed ar yr 11 Hydref 1887 ym Mhlas Gwyn ger Pwllheli, Sir Gaernarfon.

Fe'i penodwyd yn Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1930 yn dilyn ymddeoliad Syr John Ballinger.

Fe'i urddwyd yn farchog yn 1944.

Bu farw yn Aberystwyth ar yr 11eg o Dachwedd 1952, a gwasgarwyd ei lwch ar erddi'r Llyfrgell Genedlaethol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]