Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberystwyth
Aberystwyth shore.jpg
Enwyd ar ôl Afon Ystwyth Edit this on Wikidata
Math tref farchnad, Cymuned, tref goleg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 12,250 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1109 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Kronberg im Taunus, Sant-Brieg, Esquel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru, Baner Y DU Y DU
Gerllaw Bae Ceredigion, Afon Ystwyth Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Clarach Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.42°N 4.07°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000359 Edit this on Wikidata
Cod OS SN585815 Edit this on Wikidata
Cod post SY23 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01970 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Gwefan www.aberystwyth.gov.uk Golygu ar Wicidata

Tref fwyaf Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru yw Aberystwyth. Mae'n sefyll ar lan Bae Ceredigion lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu. Cododd Edmwnt, brawd y brenin Edward I ar Loegr y castell presennol yn 1277 a thyfodd y dref o gwmpas y castell. Daeth yr harbwr yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ganlyniad i'r cloddfeydd plwm a oedd yn yr ardal. Enillodd Aberystwyth y teitl 'Tref Orau Prydain' yn 2015 gan yr Academy of Urbanisation.[1]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir y dref lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu, ar yr arfordir gorllewinol Cymru. Er bod yr enw yn awgrymu fel arall, dim ond afon Rheidol sy’n rhedeg drwy’r dref. Ers i’r harbwr gael ei ailadeiladu, mae afon Ystwyth bellach yn rhedeg o gwmpas ymyl deheuol y dref.

Mae gan Aberystwyth pier a glan môr sy’n estyn o Graig-glais ar ben gogleddol y promenâd, i geg yr harbwr yn y de. Mae dau ddarn o draeth, sy’n cael eu gwahanu gan bentir y castell.

Yn ei hanfod, mae’r dref yn cynnwys nifer o ardaloedd gwahanol: Canol y dref, Llanbadarn Fawr, Waunfawr, Llanbadarn, Trefechan a Phenparcau (yr ardal fwyaf poblog)

Tref arunig yw Aberystwyth, gan ystyried dwysedd poblogaeth y Deyrnas Unedig. Lleolir y trefi sylweddol agosaf 1 awr 45 munud i ffwrdd o leiaf, gan gynnwys: Abertawe, 70 milltir i’r de, Amwythig, 75 milltir i’r dwyrain dros y ffin Lloegr, Wrecsam, 80 milltir i’r gogledd-ddwyrain, a Chaerdydd, 100 milltir i’r de-ddwyrain.

Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn debyg i bron holl y Deyrnas Unedig, mae gan Aberystwyth hinsawdd gefnforol (dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfb). Mae effeithiau’r hinsawdd hon yn arbennig o amlwg gan fod y dref yn wynebu’r Môr Iwerddon. Mae effeithiau lleol y tir dim ond yn fach iawn ar y llif awyr, felly bod tymereddau yn adlewyrchu tymheredd y môr pan bod y gwynt yn chwythu o’r cyfeiriad trechaf, sef y de-orllewin. Mae Gorsaf y Swyddfa Tywydd agosaf yng Ngogerddan, tair milltir i’r gogledd-ddwyrain, ar uchder tebyg i’r dref ei hun.

Roedd y tymheredd uchaf llwyr yn 34.6 °C (94.3 °F) [2] , a gofnodwyd ym mis Gorffennaf 2006. Roedd hyn hefyd yn record i fis Gorffennaf yng Nghymru gyfan, sydd yn awgrymu bod lleoliad isel y dref, ynghyd â’r posibilrwydd o effaith Föhn pan bod y gwynt yn dod o’r mewndir, yn gallu cydweithio i beri tymereddau uchel ar brydiau. Yn arferol, bydd y tymheredd cyfartalog ar y dydd poethaf yn cyrraedd 28 °C (82 °F)[3], gyda 5.6 diwrnod y flwyddyn yn rhagori ar 25 °C (77 °F)[4]

Roedd y tymheredd isaf llwyr yn −13.5 °C (7.7 °F)[5], a gofnodwyd yn Ionawr 2010. Yn nodweddiadol, gellir arsyllu rhew awyr 39.8 dydd y flwyddyn.

Ar gyfartaledd, mae 1,112 mm (44 in) o law yn syrthio bob blwyddyn,[6] a chofnodir mwy na 1mm ar 161 dydd y flwyddyn.[7]

Ar 14 Ionawr 1938 trawyd Aberystwyth gan un o stormydd gwaethaf yn ei hanes. Chwalwyd y tai a wynebai'r môr ac fe gwtogwyd y pier o 200tr.[8] ("15 Ionawr 1938: Pier Aberystwyth wedi ei thorri yn ddwy, llanw uchel, gwynt cryf o'r de, y llanw uchaf yn ffodus ychydig ddyddiau wedyn")[9]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Oes Mesolithig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tystiolaeth y defnyddwyd ardal Tan-y-Bwlch ger troed Pen Dinas (Penparcau) yn ystod y cyfnod Mesolithig, ar gyfer creu arfau ar gyfer helwyr-gasglwyr allan o'r callestr a adawyd yno wedi i'r encilio.[10]

Yr Oesoedd Efydd a Haearn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae olion caer Geltaidd ar ben bryn Pen Dinas (neu 'Dinas Maelor'), Penparcau yn edrych dros Aberystwyth o'r de, yn dynodi yr anheddwyd y safle o tua 700 CC.[11][12] Ar ben bryn i'r de o Afon Ystwyth, mae olion cylch gaer. Credir mai olion y castell yr herwgipwyd y Dywysoges Nest ohono yw'r rhain. Mae'r olion bellach ar dir preifat a gellir ei gyrchu drwy gael caniatád a threfnu gyda'r perchennog yn unig.[13]

Rhan o furiau Castell Aberystwyth gyda Craig-glais yn y cefndir.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg mai'r cofnod hanesyddol cyntaf o Aberystwyth oedd adeiladu caer yn 1109, gan Gilbert Fitz Richard (taid Richard de Clare, sy'n adnabyddus am ei rôl yn arwain Goresgyniad y Normaniaid ar Iwerddon). Rhoddwyd tiroedd ac arglwyddiaeth Aberteifi i Gilbert Fitz Richard, gan Harri I, brenin Lloegr, gan gynnwys Castell Aberteifi. Lleolwyd y caer yn Aberystwyth tua milltir a hanner i'r de o safle'r dref heddiw, ar fryn uwchben glannau deheuol yr Afon Ystwyth.[14] Adeiladodd Edmwnt, brawd y brenin Edward I gastell newydd yn 1277, wedi iddo gael ei ddinistrio gan y Cymry.[15] Ond, adeiladwyd ei gastell ef mewn safle gwahanol, ar bwynt uchel y dref, sef Bryn Castell. Rhwng 1404 a 1408 roedd Castell Aberystwyth yn nwylo Owain Glyndŵr, ond ildiodd i'r Tywysog Harri, a ddaeth yn Harri V, brenin Lloegr yn ddiweddarach. Yn fuan wedi hyn cyfunwyd y dref gyda Ville de Lampadarn (enw hynafol Llanbadarn Gaerog, er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Llanbadarn Fawr, y pentref (1.6 km) i'r gorllewin). Dyma sut y cyfeirir ati yn y Siarter Brenhinol a roddwyd gan Harri VIII, ond fel Aberystwyth y cyfeirwyd ati yn nogfennau o oes Elizabeth I.[16]

Gwelir siâp strydoedd Canol Oesol y dref o hyn (er, gydag adeiladu o'r 18 a'r 19g) mewn strydoedd ger y Castell ar ben uchaf Aberystwyth, megis, Heol y Wig, y Stryd Fawr, Stryd y Porth Bach a Heol y Bont.

Agorwyd un o fanciau annibynnol cynharaf Cymru, Banc y Llong yn y dref yn 1762.

Cyfnod Modern Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1649 fe wnaeth milwyr y seneddwyr dinistrio’r castell, yn gadael dim ond rhai gweddillion bach, er bod darnau'r tri thŵr yn dal i fodoli. Yn 1988, yn ystod gwaith cloddio yn ardal y castell, darganfuwyd ysgerbwd gwryw cyflawn, a oedd wedi’i gladdu’n fwriadol. Er mai anaml y mae sgerbydau yn aros yn gyfan oherwydd y pridd asidig yng Nghymru, mae’n debyg y goroesodd y sgerbwd oherwydd y presenoldeb calch yn y pridd, o’r adeilad a gwympodd. Adnabyddir fel "Charlie", mae bellach wedi'i gartrefu yn Amgueddfa Ceredigion yn y dref, ac mae’n debyg yr oedd e’n byw yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref Lloegr, a bu farw yn ystod y gwarchae gan y seneddwyr. Gellir gweld ei ddelwedd mewn un o’r naw mosaig wedi’u creu i addurno muriau’r castell.

Paentiad o Hafod Uchtryd gan John Warwick Smith, o 1795

Plasty ac ystâd wedi’u hadeiladu o 1783 gan Thomas Johnes oedd Hafod Uchtryd, gyda rhan ohono wedi’i gynllunio gan John Nash. Ffurfiwyd y gerddi wedi'u tirlunio gan ffrwydro darnau o’r bryniau er mwyn rhoi golygfeydd gwell o’r amgylchoedd. Adeiladwyd ffyrdd a phontydd a chafodd miloedd o goed eu plannu. Canlyniad y gwaith oedd tirlun a ddaeth yn enwog ac atynnodd llawer o ymwelwyr, gan gynnoes Samuel Taylor Coleridge, y credir bod ei gerdd, Kubla Khan, wedi cael ei ysbrydoli gan yr ystâd. Chwalwyd y tŷ ym 1955, ond mae’r gerddi yn aros yno.

Roedd diwydiannau gwledig a chrefftwyr yn rhan bwysig o fywyd mewn tref wlad. Mae'r cyfeirlyfr masnach leol o 1830 yn dangos y busnesau dilynol: ugain o gryddion, wyth pobydd, dau felinydd corn, un ar ddeg o seiri coed ac asiedyddion, un cowper, saith teiliwr, dwy wniadwraig, dau wneuthurwr het gwellt, dau wneuthurwr het, tri chwrier, pedwar cyfrwywr, dau weithiwr tun, chwe chynhyrchydd brag, dau grwynwr, pedwar barcer, wyth saer maen, un bragwr, pedwar llosgwr calch, tri saer llongau, tri gwneuthurwr olwyn, pum gwneuthurwr cabinet, un gwneuthurwr hoelion, un gwneuthurwr rhaff ac un gwneuthurwr hwyl.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Aberystwyth yn dref gwyliau glan môr boblogaidd. Yn ogystal â dwy sinema a chwrs golff, mae ei atyniadau yn cynnwys:

Gorsaf Rheilffordd y Graig ar ben rhodfa'r môr.

Mae hufenfa organig cwmni Rachel's Organic wedi ei lleoli ar ystad ddiwydiannol Glan yr Afon, a dyma'r cyflogwr mwyaf yn y sector breifat yn Aberystwyth.[17][18] Mae rhai yn honni fod y dref wedi datblygu economi fach ei hun gan ei fod wedi ei ynysu oddi wrth gweddill y wlad: mae Rachel yn cyflogi 130, a 1,000 wedi eu cyflogi yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion yn y dref; cyflenwir y rhan helaeth o weithwyr y sector cyflog isel gan fyfyrwyr.[18]

Y pier

Daeth papur newydd y Cambrian News i Aberystwyth o'r Bala ym 1870, wedi iddo gael ei brynu gan Syr John Gibson. Argraffwyd yn Nghroes-oswallt, ac ym mis Mai 1880 cyfunodd y papur gyda'r cyn-Malthouse Dan Dre. Y teulu Read oedd yn berchen arno o 1926, ac ym 1993, contractwyd yr argraffu allan, gan alluogi i'r cwmni symyd eu staff golygyddol i swyddfa ar Barc Gwyddoniaeth ar Gefnllan, ger Llanbadarn Fawr. Wedi marwolaeth Henry Read, prynwyd y papur gan Syr Ray Tindle ym 1999, gan ddod yn un o dros 200 o bapurau wythnosol ym Mhrydain sydd yn eiddo iddo. O ran maint ei gylchrediad wythnosol, y Cambrian News sydd yn ail yng Nghymru erbyn hyn, gan werthu 24,000 copi mewn chwe fersiwn olygyddol, a ddarllenir gan 60,000 ar draws 3000 milltir sgwar.[19]

Lleolir gwasg Y Lolfa ym mhentref Tal-y-bont, Ceredigion nid nepell o Aberystwyth. Mae'r wasg yn cyflogi oddeutu hanner cant o bobl y fro. Sefydlwyd y wasg gan Robat Gruffudd, ond bellach mae'r wasg yn nwylo diogel ei feibion Garmon a Lefi. Dyma bellach un o'r gweisg mwyaf sy'n cyhoeddi cyfran helaeth o'i llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â Gwasg Gomer o Landysul, Gwasg Carreg Gwalch o Lanrwst a Gwasg y Dref Wen o Gaerdydd.

Bywyd Gwyllt[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Eithin Sbaen ar y Consti
Un 1927 casglodd un Miss Adamson, a oedd yn astudio'r Ffrangeg yng CPC Aberystwyth ar y pryd, blanhigyn a anfonodd at ei mam, a'i hanfonodd yn ei thro at yr Amgueddfa Brydeinig (Hanes Natur), gan ddweud yn y llythyr "found growing in plenty on a bare hillside above Aberystwyth — far enough from anywhere, so I understand, for the idea of an escape not to occur to her or me.". Adnabyddwyd y sbesimen fel Genista hispanica ac fe ellir ei weld o hyd yn herbariwm yr AB.
Yr unig sylw printiedig o'r planhigyn hwn yw mewn arweinlyfr i lwybr natur ar y 'Consti' yn 1977 a baratowyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur o dan yr enw camarweiniol "Spanish Broom" (banadl Sbaen). Yn rhyfeddol ni soniwyd amdano gan Salter yn y Fflora sirol o'i eiddo ac ni chynhwysa'r un fflora sirol arall y rhywogaeth hon fel rhywogaeth cyflwynedig. Cafodd ei blannu ar gyrion ffyrdd mewn llawer man yn Lloegr, yn enwedig Swydd Caerwynt ond nid oes un y cydnabod ei fod wedi ymsefydlu yn y gwyllt. Nodyn:Cyfieithiad

Aiff y sylw ymlaen i ddweud:

I can remember seeing the Aberystwyth population for at least the last 25 years, and over the last 5 years or so it has increased considerably. The colony, which must be the same one that Miss Adamson found, is on the south-facing slope of Constitution Hill, between the top half of the Cliff Railway and the sea cliffs (SN 583828). There are some hundreds of plants in an area c. 150 x 50 m. The largest plants form softly spiny cushions c. 3 m. in diameter and c. 70 cm. tall, and the total area of the cushions is c. 450 sq. m. When in flower, in late May, the clear yellow of the Genista contrasts strikingly with the golden yellow of the surrounding Ulex europaeus (Spring Gorse), and can be seen with the naked eye from two miles away at Pen-parcau...How and when it was introduced to Constitution Hill is unknown, but it is certainly well-naturalised there and today, as in 1927, could easily be taken for a native.[20]

Ydi’r eithin Spaen ar y Consti o hyd? Beth am fynd am dro ddiwedd mis Mai i’w weld. Ia, bydd llun o’i flodau melyn clir yn dderbynniol iawn diolch!

  • Cawodydd drudwennod

Mae'r pier yn glwydfan i sawl mil(iwn?) o ddrudwennod sydd yn chwyrlio yn eu ffordd ddihafal wrth noswylio. Hon yn ddios yw'r clwydfan enwocaf o'i bath yng Nghymru.

Amwynderau ac atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Harbwr Aberystwyth, 1850

Tref brifysgol a chyrchfan i dwristiaid yw Aberytwyth, sydd hefyd yn ffurfio cyswllt diwylliannol rhwng y Gogledd a’r De. Mae Craig-glais (neu Consti, o’r enw Saesneg Constitution Hill) yn rhoi golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion a'i forlin, yn ogystal ag atyniadau eraill ar y copa, gan gynnwys y Camera Obscura. Gall ymwelwyr gyrraedd y copa gyda Rheilffordd y Graig, sef y rheilffordd ffwniciwlar hiraf yn y DU tan 2001.

Mae’r mynyddoedd Cambria yn ffurfio rhan o'r tirlun golygfaol sydd yn amgylchu’r dref, y mae eu cymoedd yn cynnwys coedwigoedd a dolydd sydd dim wedi newid yn fawr am ganrifoedd. Ffordd cyfleus i gyrraedd y mewntir ydy’r Rheilffordd Cwm Rheidol, lein trac cul wedi’i gadw gan wirfoddolwyr.

Er bod y dref yn fodern yn gymharol, mae nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys gweddillion y castell, a’r Hen Goleg o Brifysgol Aberystwyth gerllaw. Adeiladwyd ac agorwyd yr Hen Goleg yn wreiddiol ym 1865 fel gwesty, ond wedi i’r perchennog fethdalu, gwerthwyd cragen yr adeilad i’r brifysgol ym 1867.

Mae campws newydd y Brifysgol yn edrych dros Aberystwyth o Riw Penglais, a leolir i’r dwyrain o ganol y dref. Adeiladwyd yr Orsaf, sef terfynell y prif reilffordd, ym 1924 yn yr ardull nodweddiadol o’r cyfnod, gan ddefnyddio cymysgedd o bensaernïaeth Gothig, Diwygiad Clasurol a Fictoraidd.

Prifddinas answyddogol y Canolbarth yw’r dref, ac mae gan amryw sefydliadau swyddfeydd rhanbarthol neu genedlaethol yno. Mae cyrff cyhoeddus a leolir yn y dref yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn corffori’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, un o chwe archif ffilm ranbarthol ym Mhrydain Fawr. Mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn trin a chadw’r Rhestr Henebion Cenedlaethol Cymru, sydd yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar etifeddiaeth bensaernïol Cymru. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i’r swyddfeydd cenedlaethol yr Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru swyddfa yn y dref, yn ogystal â’r Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol cyffredin yr Iaith Gymraeg. Mae’r Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylchedd wedi bod yng Ngogerddan, i’r gogledd-ddwyrain o’r dref ers 1919, ond mae bellach wedi cael ei ymgorffori i mewn i Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ym mis Medi 2009, agorwyd cymhleth swyddfeydd newydd ar Boulevard St Brieuc ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion.

Rhestr o sefydliadau ac atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amgueddfa Ceredigion
  • Camera obscura
  • Canolfan y Celfyddydau
  • Castell Aberystwyth
  • Lip Licking Fried Chicken
  • Lynton, Rhodfa'r Gogledd (Tŷ myfyrwyr nodedig)
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Neuadd Pantycelyn
  • Parc Penglais
  • Parc Siopa Rheidol
  • Parc Siopa Ystwyth
  • Parc y Llyn (parc siopa)
  • Pont Trefechan
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Rheilffordd Y Graig
  • The Ship and Castle (tafarn)
  • Toiledau Parc y Castell (yn adnabyddus am eu pensaernïaeth cywrain)
  • Yr Hen Goleg
  • Yr Hen Lew Du (a adwaenir weithiau fel y gramadegol wallus Llew Ddu) [21]
  • Y Pysgoty
  • Canolfan y Morlan
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyngor Ceredigion

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[22][23][24]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberystwyth (pob oed) (13,040)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberystwyth) (3,950)
  
30.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberystwyth) (6069)
  
46.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberystwyth) (2,038)
  
40.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn flynyddol ers 2013, cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth ac, ers 2014, Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth.

Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i sawl sefydliad a mudiad:

Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn glwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwch-gynghrair Principality Cymru.

Cynhelir Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn flynyddol yn y dref.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1916, 1952 a 1992. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Aberystwyth yw tref genedigol:

Eraill sydd â chysylltiad ag Aberystwyth yw:

Dyfyniadau am Aberystwyth[golygu | golygu cod y dudalen]

San Francisco Cymru, Aberystwyth
"Rauschgiftsuchtige?", Datblygu.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Aberystwyth yn gartref i ysgol Gymraeg ddynodedig cyntaf Cymru, sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd fel Ysgol Gymraeg yr Urdd ym 1939. Ysgolion cynradd eraill y dref yw Plascrug, Cwmpadarn a Llwyn yr Eos.

Mae dwy ysgol uwchradd, ysgol gyfun Gymraeg Penweddig ac ysgol ddwyieithog Penglais.

Mae addysg uwch ac addysg bellach yn cael ei ddarparu yn y dref gan Brifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Aberystwyth yw ‘Tref Orau Prydain’". Golwg360. 17 Tachwedd 2014. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/168443-aberystwyth-yw-tref-orau-prydain. Adalwyd 17 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg)"2006 Maximum". http://eca.knmi.nl/utils/monitordetail.php?seasonid=13&year=2006&indexid=TXx&stationid=1811. Adalwyd 28 Chwefror 2011.
  3. (Saesneg)"1971-00 Average annual warmest day". http://eca.knmi.nl/utils/calcdetail.php?seasonid=0&periodid=1971-2000&indexid=TXx&stationid=1811. Adalwyd 23 Chwefror 2011.
  4. (Saesneg)"Max >25c days". http://eca.knmi.nl/utils/calcdetail.php?seasonid=0&periodid=1971-2000&indexid=SU&stationid=1811. Adalwyd 28 Chwefror 2011.
  5. (Saesneg)"2010 minimum". http://eca.knmi.nl/utils/monitordetail.php?seasonid=7&year=2010&indexid=TNn&stationid=1811. Adalwyd 28 Chwefror 2011.
  6. (Saesneg)"1971-00 Rainfall". http://eca.knmi.nl/utils/calcdetail.php?seasonid=0&periodid=1971-2000&indexid=RR&stationid=1811. Adalwyd 28 Chwefror 2011.
  7. (Saesneg)"1971-00 Wetdays". http://eca.knmi.nl/utils/calcdetail.php?seasonid=0&periodid=1971-2000&indexid=RR1&stationid=1811. Adalwyd 28 Chwefror 2011.
  8. Woodward A. & Penn R. , The Wrong Kind of Snow (Hodder & Stoughton), cyfieithiad
  9. Helo Bobl, Radio Cymru 26 Ebrill 1988
  10. Houlder, C.H., The Stone Age, in J L Davies and D P Kirkby, Cardiganshire County History, I, (1994), pp. 107-123
  11. Briggs, C.S., The Bronze Age, in J L Davies and D P Kirkby, Cardiganshire County History, I, (1994), p. 216, : appendix V, : no. 15
  12. Browne, D and Driver, T., Bryngaer Pendinas Hill Fort, A Prehistoric Fortress at Aberystwyth, (2001)
  13. Houlder, C.H., (1957), Recent Excavations in Old Aberystwyth, Ceredigion, III, no. 2, pp. 114-117
  14. Griffiths, Ralph A., "The Three Castles at Aberystwyth", Archaeologia Cambrensis, V.126, 1977, pp. 74-87
  15. Spurgeon, C.J., The Castle and Borough of Aberystwyth, 1973, p. 5
  16. Griffiths, R.A., (1978), 'Aberystwyth' in Griffiths, R.A., Boroughs of Mediaeval Wales, 19, 25-7
  17.  Jobs - About Us. Rachel's Organics. Adalwyd ar 2010-05-31.
  18. 18.0 18.1  Nick Servini (2009-09-10). Tour to test claims of recovery. BBC. Adalwyd ar 2010-05-31.
  19.  150 year celebration. Cambrian News (2010-01-08). Adalwyd ar 2010-05-31.
  20. Nature in Wales Mawrth 1978 (gyda chaniatad)
  21. http://www.panoramio.com/m/photo/15432914
  22. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  23. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  24. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  25. William keeping the streets clean for 25 years, Cambrian News 28/3/2012

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]