Talgarreg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Talgarreg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°8'2.8"N, 4°18'1.4"W Edit this on Wikidata
Cod OS SN426510 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref yn sir Ceredigion yw Talgarreg. Fe'i lleolir yn ne'r sir ar groesffordd ar y B4459, tua hanner ffordd rhwng y Ceinewydd a Llandysul.

Gorwedd Talgarreg ym mhlwyf eglwysig Llanarth. Llifa Afon Clettwr heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Teifi tua 7 milltir i'r de. 'Tir Dyffryn Clettwr' yw'r enw traddodiadol am yr ardal.

Mae Talgarreg yn bentref Cymraeg ei hiaith o hyd, gyda'r mwyafrif yn siarad yr iaith. Ffermio defaid yw'r diwydiant lleol pwysicaf.

Gefeillir ysgol y pentref a Skol Diwan, Guingamp, yn Llydaw.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rees Jones (Amnon) (1797-1844), bardd. Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn rhan uchaf Dyffryn Clettwr, ger Talgarreg.
  • Dewi Emrys (1881-1952), bardd. Symudodd i fyw gyda'i ferch Dwynwen, yn Y Bwthyn, Talgarreg, yn 1941. Yn y fan honno dreuliodd gweddill ei oes. Bu farw yn Aberystwyth yn mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg.
  • Cynog Dafis, gwleidydd Plaid Cymru, sy'n byw yn y pentref.
  • Gillian Clarke, bardd
  • Donald Evans (g. 1940), bardd; brodor o Dalgarreg

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: