Llangwyryfon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangwyryfon
Llangwyryfon Church and Chapel.JPG
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°18'58"N, 4°3'25"W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000383 Edit this on Wikidata
Cod OS SN599707 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Llangwyryfon, yn yr hen amser Llangwyryddon. Saif ar y ffordd B4576, tua naw milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae Afon Wyre yn llifo trwy'r pentref.

Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Ursula a'r unarddeg mil o wyryfon a ferthyrwyd gyda hi. Roedd yr hen eglwys ynghanol y fynwent, ond yn 1879 adeiladwyd eglwys newydd tu allan i'r fynwent.

Cofnodir i Daniel Rowland, William Williams (Pantycelyn) a Howel Harris gynnal seiadau yma rhwng 1743 a 1750.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Rhyfel y Sais Bach[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 14 Mai 1826 (192 blynedd yn ôl) – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Sais Bach - gan atal Augustus Brackenbury, tirfeddiannwr cyfoethog o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon. Yn dilyn y gwrthdaro, a dymchwel waliau'r adeilad, Ffodd am ei fywyd yn ôl i Loegr.[3]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangwyryfon (pob oed) (596)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwyryfon) (342)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwyryfon) (345)
  
57.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangwyryfon) (73)
  
29.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; gol: John Davies; tud 818.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013