Bethania, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Bethania, Ceredigion
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDyffryn Arth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2509°N 4.0896°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Bethania("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fel sawl lle arall, yn cynnwys Bethania, Gwynedd, fe'i enwir ar ôl dinas Feiblaidd Bethania.

Lleolir Bethania ar groesffordd wledig tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron a thua 13 milltir i'r de o Aberystwyth, wrth lethrau deheuol Y Mynydd Bach. Y pentrefi agosaf yw Penuwch i'r dwyrain a Cross Inn i'r gorllewin.

Dyma gartref cwmni dŵr mwyn Tŷ Nant. Mae'r dŵr mwyn enwog yn tarddu o ffynnon ar dir fferm Tŷ Nant, ger y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.