Llangrannog

Oddi ar Wicipedia
Llangrannog
Mathpentref, cyrchfan lan môr, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1618°N 4.427°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000382 Edit this on Wikidata
Cod OSSN312542 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Llangrannog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar arfordir. Mae ganddi 771 o drigolion, a 51% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Mae'n gartref i Wersyll yr Urdd.

Mae gan y pentre ddwy dafarn, Y Ship a'r Pentre Arms. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Pentre Arms a Bois y Cilie. Cafodd Dylan Thomas ei wahardd o'r dafarn am helpu ei hunan i'r cwrw.[1]

Llwybr uwchlaw'r pentref, gan y ffotograffydd John Gillibrand

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangrannog (pob oed) (775)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangrannog) (352)
  
46.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangrannog) (384)
  
49.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangrannog) (132)
  
38.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Caranog[golygu | golygu cod]

Prif: Carranog

Sant o ddiwedd y 5ed i ddechrau'r 6g oedd Carranog (ganwyd c. 470; Gwyddeleg: Cairnech; Llydaweg: Karanteg; Lladin: Carantocus; Saesneg: Carantoc; Cernyweg: Crantoc). Yn ôl y llawysgrif Progenies Keredic Regis de Keredigan, a sgwennwyd ar ddechrau'r 13g,[8] roedd yn fab i'r Brenin Ceredig, ond yn ôl Peniarth 12 ac 16 (a Iolo tud. 110 a 125) roedd yn fab i Corun ac felly'n ŵyr i Ceredig. Ceir felly peth dryswch yn ei gylch.

Panorama o'r traeth
Panorama o'r traeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pub lifts ban on poet Dylan Gwefan BBC News. 22-08-2003. Adalwyd ar 25 Mai 2011
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  8. Gweler Y Cymmrodor XIX, tud. 27.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]