Neidio i'r cynnwys

Aber-porth

Oddi ar Wicipedia
Aber-porth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,374, 2,183, 2,485 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,645.93 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.13°N 4.55°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000358 Edit this on Wikidata
Cod OSSN2549251448 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddCeredigion Penfro
Etholaeth y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngheredigion, 10 km i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi, yw Aber-porth[1] neu Aberporth ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Aber-porth, Blaenannerch, Blaen-porth a Pharc-llyn.

Ers 1938 mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn safle profi rocedi ym mhentref Parc-llyn gerllaw. Yn ddiweddar fe agorwyd 'Parc Aberporth', parc busnes sy'n bwriadu dod yn ganolfan profi awyrennau di-beilot.

Cododd y Sacson Gilbert de Clare gaer gadarn ar y mwnt gerllaw fel un o'i ymdrechion i goncro Ceredigion tua'r flwyddyn 1110.

Seliwyd gwaith y cymdeithasegydd David Jenkins ar astudiaeth o drigolion y pentref: mynychwyr dwy dafarn y pentref ar y naill law a'r capel ar y llall.

Carreg Bica

[golygu | golygu cod]

Mae Carreg Bica yn graig eiconig ar Draeth y Dyffryn. Yn ystod Storm Brian, yn Hydref 2017, torrwyd darn anferthol ohoni.[2]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aber-porth (pob oed) (2,374)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aber-porth) (1,018)
 
44.4%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aber-porth) (1317)
 
55.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aber-porth) (513)
 
47%
:Y ganran drwy Gymru
 
5%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 10 Awst 2023
  2. cambrian-news.co.uk; Archifwyd 2017-11-09 yn y Peiriant Wayback Y Cambrian News; adalwyd 30 Mai 2018.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.