Tal-y-bont, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tal-y-bont
Tal-y-Bont, Ceredigion.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°28'49.1"N, 3°58'45.8"W Edit this on Wikidata
Cod OS SN6589 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Tal-y-bont.

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned Ceulan-a-Maesmor.

Saif ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m).

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19g ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhan fwyaf o'r rhain.

Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Mae Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd yn swyddogol ar 6 Awst 1924,[3] ni chaniateir yfed alcohol yn yr adeilad hwn. Cynhelir Ffair y Neuadd yn flynyddol ar ddiwedd pob mis Tachwedd.

Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa, a dyfodd yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal a siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, a credwyd y byddai'r siop yn anhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[4] Datganwyd ym mis Awst 2009 i'r swyddfa gael ei hachub wedi cryn ymgyrchu.[5]

Mae dwy dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du yn flynyddol hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symud i'r wlad a rhedeg tafarn. Erbyn 2007, roedd y Llew Du a'r Llew Gwyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[6]

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont yng ngogledd y pentref, mae'n ysgol Gymraeg sydd â tua 100 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Mae hefyd ysgol feithrin rhan amser sy'n cymryd plant iau, a chylch Ti a Fi pob prynhawn dydd Gwener.[7]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y bentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a changen Plaid Cymru.

Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.

Pobl o Dal-y-bont[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Welsh Gazette, 7 Awst 1924
  4. Y Siop, Hydref 2007
  5.  Post: Achub cangen?. Newyddion BBC (17 Awst 2009).
  6.  Y Llew Du. Papur Pawb (Hydref 2007).
  7.  Mudiad Ysgolion Meithrin.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]