Aberaeron

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).
Aberaeron
Aberaeron Houses.jpg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.24245°N 4.25939°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000357 Edit this on Wikidata
Cod OSSN458628 Edit this on Wikidata
Cod postSA46 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)

Tref arfordirol a chymuned yng Ngheredigion yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain. Mae Caerdydd 112.8 km i ffwrdd o Aberaeron ac mae Llundain yn 297.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 70.6 km i ffwrdd.

Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae 1,422 o bobl yn byw yn y dref ac mae tua 60% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg (2011); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw. Yr Aelod lleol o Senedd Cymru yw Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).

Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberaeron (pob oed) (1,422)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberaeron) (832)
  
59.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberaeron) (936)
  
65.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberaeron) (370)
  
50.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Syr Geraint Evans - bu'r canwr opera enwog yn byw yn Aberaeron am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Croeso i Ardal Aberaeron - Ceinewydd (llyfr).jpg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Aberaeron01LB.jpg