Llangynllo, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Llangynllo
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.069244°N 4.406619°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Llangynllo, Powys.

Pentref bychan a phlwyf yng Ngheredigion yw Llangynllo. Fe'i lleolir yn ne'r sir, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn. Mae mewn cwm i'r gogledd o Ddyffryn Teifi.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Saif eglwys y plwyf ar fryn isel. Fe'i cysegrir i Sant Cynllo, un o ddisgynyddion Coel Hen o'r Hen Ogledd yn ôl traddodiad.

Mae Plas y Bronwydd yn y plwyf, cartref y Llwydiaid gynt, sy'n dyddio o'r 17g.

Pobl o Langynllo[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]