Neidio i'r cynnwys

Jonathan Ceredig Davies

Oddi ar Wicipedia
Jonathan Ceredig Davies
Dwy dudalen o'i gyfrol Life, Travels and Reminiscences of Jonathan Ceredig Davies (1927)
Ganwyd22 Mai 1859, 1859 Edit this on Wikidata
Llangynllo Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1932, 1932 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethachrestrydd, arbenigwr mewn llên gwerin Edit this on Wikidata

Llenor o Gymru ac arbenigwr ar lên gwerin Cymru oedd Jonathan Ceredig Davies (22 Mai 185929 Mawrth 1932). Cyhoeddai dan yr enw J. Ceredig Davies.[1] Teithiodd yn eang a chyhoeddodd sawl llyfr taith gan gynnwys dwy gyfrol am y Wladfa, Patagonia. Ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad i astudiaethau llên gwerin gyda'r gyfrol nodedig Folk-lore of West and Mid-Wales (1911).[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Davies ar 22 Mai 1859, ym Mhlwyf Llangynllo, Ceredigion, yn fab J. C. Davies. Yn 1875, ac yn yntau'n ddim ond 16 oed, ymfudodd i'r Wladfa a dychwelodd i Gymru yn 1891; blwyddyn yn ddiweddarach, yn 1892 golygodd Yr Athrofa - lle cyhoeddodd golofn 'Anturiaethau yn Nhir y Cewri ' a gyhoeddwyd wedyn yn Saesneg (Llanbedr Pont Steffan, 1892). Yn 1898 ymwelodd â Gorllewin Awstralia gan aros yno am bedair blynedd tra'n astudio arferion traddodiadol y brodorion a gwnaeth lawer i hyrwyddo mudiadau crefydd a diwylliant ymhlith y Cymry a ymsefydlasai yno. Dychwelodd i Awstralia yn 1907, ac ymwelodd â Ffrainc a Sbaen yn 1924 cyn treulio gweddill ei oes yng Nghymru. Daeth i adnabod hanes, llên gwerin Cymru yn y cyfnod hwn, a'i hachyddiaeth. Bu farw ar 29 Mawrth 1932 yn Llanddewi-brefi.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Darlith ar Batagonia (1891)
  • Patagonia: a Description of the Country (1892)
  • Adventures in the Land of Giants: a Patagonion Tale (1892)
  • Folk-lore of West and Mid-Wales (1911)
  • Welsh and Oriental Languages (1927)
  • Life, Travels and Reminiscences (!927)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. 29 Mawrth 1932.Williams, W., (1953). DAVIES, JONATHAN CEREDIG (1859 - 1932), teithiwr ac achydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 22 Mai 2025, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-CER-1859
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.