Neidio i'r cynnwys

Ponterwyd

Oddi ar Wicipedia
Ponterwyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4117°N 3.84°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN748808 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Blaenrheidol, Ceredigion, yw Ponterwyd,[1] a leolir tua 12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar lôn yr A44 rhwng y dref honno a Llangurig. I'r de mae pentref hanesyddol Ysbyty Cynfyn. I'r gogledd ceir moelydd llwm Pumlumon. Rhed Afon Rheidol i'r de o'r pentref.

"Yr Hen Bont" ar Reidol, Ponterwyd
Amgueddfa Mwynglawdd Llywernog

Mae gan Bonterwyd nifer o adeiladau Sioraidd, gan gynnwys 'Yr Hen Bont' ar afon Rheidol, sy'n dyddio o'r 18g, a'r capel gerllaw.

Bu cloddio am fwynau yn y bryniau o gwmpas. Mae hen fwynglawdd arian Llywernog ger y pentref yn amgueddfa erbyn heddiw.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Ganed yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhŷs ger Ponterwyd yn 1840.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 16 Rhagfyr 2019


Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.