John Rhŷs

Oddi ar Wicipedia
John Rhŷs
John Rhŷs, tua 1890
Ganwyd21 Mehefin 1840 Edit this on Wikidata
Ponterwyd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 1915 Edit this on Wikidata
Coleg yr Iesu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, ysgrifennwr, ieithegydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Jesus Professor of Celtic Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd oedd John Rhŷs (ei orgraff arferol ei hun) neu John Rhys (21 Mehefin 1840 - 17 Rhagfyr 1915), a aned ger Ponterwyd, Ceredigion. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Canol gorau ei ddydd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Graddiodd Rhŷs ym Mhrifysgol Rhydychen gydag anrhydedd yn y Clasuron yn 1869. Ar ôl treulio cyfnod o astudio tramor a gweithio fel arolygydd ysgol yn yr hen Sir y Fflint fe'i penodwyd yn Athro Celteg cyntaf ei hen brifysgol yn 1877. Yn 1895 daeth yn brifathro Coleg Iesu yno. Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Cymreig y brifysgol gan gynnwys bod yn llywydd cyntaf Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886).

Ysgolheictod[golygu | golygu cod]

"Er cof am John Rhys D:Litt: P:C: F:B:A: Prifathro Coleg yr Iesu ac Athro Astudiaethau Celtaidd. Ganwyd 21 Mehefin 1840 a bu farw 17 Rhagfyr 1915 ac er cof am Elsbeth [sic] ei wraig a anwyd 26 Mai 1841 ac a fu farw 29 Ebrill 1911." (Mynwent Holywell, Rhydychen.)

Daeth i adnabod Syr John Morris-Jones yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad o Lyfr yr Ancr. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrol Lectures on Welsh Philology (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newydd ieithyddiaeth gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd â John Gwenogvryn Evans i olygu cyfres bwysig o destunau Cymraeg Canol, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest a Llyfr Llandaf.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes traddodiadol, llên gwerin a mytholeg Geltaidd yn ogystal, gan gynnwys y cyfrolau pwysig Celtic Britain (1882) a Celtic Folkore, Welsh and Manx (1901). Er gwaethaf eu gwendidau - beiau'r oes yn bennaf - mae'r cyfrolau hyn yn gerrig milltir pwysig yn hanes ysgolheictod Celtaidd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith Rhŷs[golygu | golygu cod]

  • Lectures on Welsh Philology (1877)
  • Celtic Britain (1882)
  • Lectures on the Origin and Growth of Religion as illustrated by Celtic Heathendom (1888)
  • Studies in the Arthurian Legend (1891)
  • The Outlines of the Phonology of Manx Gaelic (1894)
  • The Welsh People (1900). Gyda D. Brynmor Jones.
  • Celtic Folkore, Welsh and Manx (1901)

Gyda John Morris-Jones:

  • The Elucidarium... from Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi (1894)

Gyda J. Gwenogvryn Evans:

  • The Text of the Mabinogion... from the Red Book of Hergest (1887)
  • The Test of the Bruts... from the Red Book of Hergest (1890)
  • The Text of the Book of Llandâv (1893)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]