Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
Enghraifft o:cymdeithas fyfyrwyr Edit this on Wikidata
Rhan oPrifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen.

Cymdeithas Gymraeg yw hi, yn hytrach na Saesneg fel ei chwaer-gymdeithas, Cymdeithas y Mabinogi yng Nghaergrawnt.

Lansiwyd gwefan newydd i'r gymdeithas yn 2026.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, felly hi yw'r gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb. Adwaenir ar lafer i’w haelodau fel “Y Dafydd”. Yn y 1990au ymddangosodd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr, sy'n cynnwys erthyglau a gwaith creadigol gan yr aelodau yn bennaf, ond hefyd gan rai o'r siaradwyr gwadd.

Ym mysg yr aelodau sylfaenol oedd O. M. Edwards a John Morris-Jones. Derbyniwyd merched yn aelodau yn ystod y flwyddyn academaidd 1966-1967. Cedwir y llyfrau cofnodion yn Llyfrgell Bodley.

Traddodiadau

[golygu | golygu cod]

Enwyd y Gymdeithas ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, a bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno.

‘Roedd gan y Gymdeithas rhai defodau ffurfiol a swyddi gyda theitlau mawreddog, er y bwriadwyd y rhain i fod yn eironig. Erbyn heddiw cadwyd y teitl Caplan ar gyfer y cadeirydd, a chadwyd swydd mawreddog yr Archarogldarthydd.

Bu’n draddodiad ar un adeg i aelodau a chyn-aelodau’r gymdeithas gyfarfod yn flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH, 1939

Rhes flaen (chwith i'r dde): G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones
Ail res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith
Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies

Cyfansoddiad

[golygu | golygu cod]

Yn 2025, dyluniwyd cyfansoddiad swyddogol i'r Gymdeithas. David Ingham (Coleg yr Iesu) a Maia Williams (Coleg yr Iesu), y cyd-gaplaniaid ar y pryd, a'i dyluniodd. Mae'n debyg nad oedd gan y Gymdeithas gyfansoddiad cyn hynny, neu y collwyd ef rywbryd ar hyd y blynyddoedd.

Mae'r Cyfansoddiad yn darllen fel a ganlyn:

"Yn enw y rhai hynny a gollodd eu gwaed dros eu gwlad a’u hiaith, a’r rhai hynny sy’n dal i frwydro; yn enw y beirdd, y gwyddonwyr a’r gwleidyddion a ffurfiodd y Gymdeithas gant a hanner o flynyddoedd cyn y dwthwn hwn; ac yn enw y bardd hwnnw a gynganeddodd cyn y bu cynghanedd, a’i eiriau’n dal i lifo ynom, a’i ddysg ynghlwm wrth ein hangerdd ni; yn enwau y rhai hynny oll,

"yr ydym ni, aelodau Cymdeithas Dafydd ap Gwilym,

"y rhai hynny a fu a’r rhai hynny a fydd,

"yn derbyn, deddfu, a datgan ein bod ni’n ffyddlon i’r Cyfansoddiad hwn."

1. Enw’r Gymdeithas

1.1. Enw’r Gymdeithas fydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y Gymdeithas”).

1.2. Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1886 ac fe’i henwir ar ôl y bardd canoloesol Cymraeg Dafydd ap Gwilym.

1.3. Mae’r Gymdeithas yn gysylltiedig â Phrifysgol Rhydychen.

1.4. Er y gellir cyfeirio at y Gymdeithas yn anffurfiol fel “Y Dafydd”, “Cymdeithas Dafydd ap”, neu “y Gymdeithas”, anogir yn gryf i beidio â defnyddio’r enw “Oxford University Welsh Society” (neu ei gyfieithiad Cymraeg).

1.5. Roedd yn arferiad gynt i bob cyfarfod ddechrau gyda darlleniad o waith Dafydd ap Gwilym gan y Caplan, wedi’i ddilyn gan drafodaeth, er nad yw’r arfer hwn bellach yn orfodol.

2. Iaith y Gymdeithas

2.1. Y Gymraeg fydd iaith swyddogol y Gymdeithas.

2.2. Cynhelir holl gyfarfodydd y Pwyllgor drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly rhaid i bob Aelod o’r Pwyllgor fedru'r Gymraeg.

2.3. Pan fo digwyddiadau a chyfarfodydd yn agored i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, cynhelir y digwyddiadau hynny’n ddwyieithog.

2.4. Ym mhob cyfathrebiad dwyieithog, boed yn lafar, yn ysgrifenedig neu’n ddigidol, bydd y Gymraeg yn rhagflaenu’r Saesneg.

3. Nodau ac Amcanion

3.1. Nodau’r Gymdeithas yw:

  • Darparu fforwm a chymuned i fyfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Cymru ym Mhrifysgol Rhydychen.
  • Hyrwyddo’r Gymraeg, diwylliant Cymru, a hunaniaeth Gymreig o fewn y Brifysgol a thu hwnt.
  • Trefnu digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol, academaidd a rhwydweithio yn rheolaidd.
  • Cadw a dathlu traddodiadau a hanes y Gymdeithas.
  • Hyrwyddo rhannu gwybodaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol.

3.2. Mae’r Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo Cymru, Cymreictod, a’r Gymraeg mewn amgylchedd lle gall ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol fod yn cael eu tangynrychioli’n aml.

4. Aelodaeth

4.1. Bydd aelodaeth yn agored i holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Rhydychen.

4.2. Gall y Gymdeithas hefyd estyn breintiau aelodaeth i staff, cyn-fyfyrwyr ac unigolion eraill yn ôl disgresiwn y Pwyllgor.

4.3. Ystyrir pob aelod o’r Gymdeithas yn gyfartal, ar yr amod eu bod yn gwneud ymdrech ddiffuant i ddefnyddio’r Gymraeg ac i barchu’r hanes hir a’r traddodiadau y sefydlwyd y Gymdeithas arnynt.

4.4. Mae’r Gymdeithas yn croesawu aelodau o bob cefndir waeth beth fo’u hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd, anabledd neu genedligrwydd.

4.5. Efallai y bydd gofyn i aelodau dalu ffi aelodaeth flynyddol fel y penderfynir gan y Pwyllgor ac a gymeradwyir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB).

4.6. Bydd gan bob aelod yr hawl i:

  • Fynychu digwyddiadau a chyfarfodydd y Gymdeithas;
  • Bleidleisio mewn etholiadau a diwygiadau cyfansoddiadol;
  • Sefyll am swyddi etholedig lle bo hynny’n gymwys; a
  • Manteisio ar weithgareddau a breintiau’r Gymdeithas.

5. Pwyllgor Rheoli

5.1. Bydd busnes y Gymdeithas yn cael ei reoli gan Bwyllgor sy’n cynnwys Swyddogion Etholedig.

5.2. Gelwir Llywydd y Gymdeithas yn Gaplan.

5.3. Y swyddogion gweithredol craidd gorfodol fydd:

  • Caplan (Llywydd): Yn goruchwylio gweithrediad cyffredinol y Gymdeithas ac yn cadeirio cyfarfodydd.
  • Trysorydd: Yn rheoli cyllid, cyllideb a chyfrifon banc y Gymdeithas.
  • Ysgrifennydd: Yn cynnal rhestrau aelodaeth ac yn ymdrin â gohebiaeth swyddogol.

5.4. Gall y Gymdeithas hefyd ethol:

  • Hyd at ddau Gyd-Gaplan;
  • Ysgrifenyddion Cymdeithasol;
  • Swyddogion Lles;
  • Swyddogion Diwylliannol; ac
  • Unrhyw swyddogion eraill y bernir eu bod yn angenrheidiol gan y Gymdeithas.

5.5. Rhaid i holl aelodau’r Pwyllgor fod yn fyfyrwyr llawn-fatriciwleiddiedig ym Mhrifysgol Rhydychen.

5.6. Cynhelir etholiadau’r Pwyllgor yn flynyddol yn ystod Tymor y Drindod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

5.7. Gall swyddi a chyfrifoldebau’r Pwyllgor amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ôl anghenion y Gymdeithas.

5.8. Disgwylir i holl aelodau’r Pwyllgor gyflawni eu dyletswyddau’n ddiwyd ac yn barchus er gwasanaeth y Gymdeithas, Cymru, diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

6. Digwyddiadau a Thraddodiadau

6.1. Yn ogystal â digwyddiadau wythnosol rheolaidd, bydd y Gymdeithas yn trefnu Eisteddfod flynyddol.

6.2. Gellir estyn gwahoddiadau i ysgolion ledled Cymru i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau sy’n gysylltiedig â’r Eisteddfod.

6.3. Gellir gwahodd enillydd y brif gystadleuaeth i ymweld â’r Gymdeithas yn ystod yr Eisteddfod a gellir ei gadeirio’n seremonïol yn unol â’r traddodiad.

6.4. Bydd aelodau’r Pwyllgor yn cynnal traddodiadau’r Gymdeithas yn barchus ac mewn modd sy’n anrhydeddu treftadaeth y Gymdeithas.

6.5. Yn draddodiadol, bydd y Gymdeithas yn cloi cyfarfodydd a digwyddiadau gyda chanu anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau.

7. Cyllid

7.1. Bydd y Gymdeithas yn sefydliad di-elw. Rhaid defnyddio pob arian a godir yn unig i gyflawni nodau ac amcanion y Gymdeithas.

7.2. Bydd y Trysorydd yn cynnal cyfrif banc penodedig yn enw’r Gymdeithas.

7.3. Mae’r Trysorydd wedi’i awdurdodi i agor a rheoli cyfrif PayPal Business, wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chyfrif banc swyddogol y Gymdeithas, at ddibenion prosesu ffioedd aelodaeth, gwerthiant tocynnau a thrafodion eraill y Gymdeithas.

7.4. Bydd blwyddyn ariannol y Gymdeithas yn rhedeg o 1 Awst hyd at 31 Gorffennaf oni bai y penderfynir fel arall gan y Pwyllgor.

7.5. Bydd y Trysorydd yn cyflwyno adroddiad ariannol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

8. Cyfarfodydd

8.1. Bydd y Gymdeithas yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) unwaith ym mhob blwyddyn academaidd.

8.2. Bydd y CCB yn:

  • Derbyn adroddiadau gan aelodau’r Pwyllgor;
  • Cymeradwyo cyfrifon y Gymdeithas;
  • Ethol y Pwyllgor newydd; a
  • Ystyried diwygiadau cyfansoddiadol.

8.3. Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (CCA) gan y Pwyllgor neu ar gais ysgrifenedig gan nifer rhesymol o aelodau fel y penderfynir gan y Pwyllgor.

9. Diwygiadau Cyfansoddiadol

9.1. Dim ond trwy bleidlais aelodau’r Gymdeithas mewn CCB neu CCA y gellir diwygio’r Cyfansoddiad hwn.

9.2. Rhaid dosbarthu rhybudd o ddiwygiadau arfaethedig i aelodau cyn y cyfarfod.

9.3. Bydd angen mwyafrif o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn gymwys i bleidleisio i basio unrhyw ddiwygiad.

10. Diddymu

10.1. Ni cheir diddymu’r Gymdeithas.

11. Mabwysiadu’r Cyfansoddiad

11.1. Mabwysiadwyd y Cyfansoddiad hwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar:

Dyddiad: 20/05/26

Caplan: David Ingham

Trysorydd: Megan Evans

Ysgrifennydd: Adam Griffiths

Llywyddion

[golygu | golygu cod]

Dyma rai o gyn-Gymrodorion y Brifysgol sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n gwasanaethau heddiw fel Llywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas:

Rhai cyn-aelodau

[golygu | golygu cod]

Y saith aelod gwreiddiol, dan gadeiryddiaeth John Rhŷs:

Aelodau diweddarach:

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Cofio’r Dafydd: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 1886–1986, gol. D. Ellis Evans ac R. Brinley Jones (Abertawe: Tŷ John Penry, 1987)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]