Neidio i'r cynnwys

John Morris-Jones

Oddi ar Wicipedia
John Morris-Jones
Ganwyd17 Hydref 1864 Edit this on Wikidata
Llandrygarn Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1929 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Ysgolhaig, gramadegydd, bardd a beirniad llenyddol o Gymru oedd Syr John Morris-Jones (17 Hydref 186416 Ebrill 1929).[1] Roedd yn un o ffigyrrau mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg a'r Iaith Gymraeg yn gyffrediniol; gosododd seiliau cadarn i ysgolheictod Cymraeg a safonau'r iaith Gymraeg fel cyfrwng llenyddol yn yr 20g.[1][2] Enwir Neuadd John Morris-Jones ar ei ôl, sef neuadd breswyl Prifysgol Bangor ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.[3]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Blynyddoedd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni ym mhentref bychan Trefor, plwyf Llandrygarn, Sir Fôn. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn Llanfairpwllgwyngyll. Bu farw ei dad pan oedd Morris-Jones yn ifanc; daliodd ei fam i gynnal siop y teulu (lle gweithiai Morris-Jones yn achlysurol yn ystod ei arddegau), ond roedd y teulu'n gymharol dlawd. Serch hynny, llwyddwyd i sicrhau addysg dda iawn yn ôl safonau'r oes i'r Morris-Jones ifanc, yn gyntaf yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn ddiweddarach fel myfyriwr preswyl yn Coleg Crist, Aberhonddu, lle daeth ei ddawn fathemategol i'r amlwg.

Tra'r oedd yn Aberhonddu dechreuodd gymryd diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg, gyda gwaith Talhaiarn yn enwedig yn ddylanwadol arno. Mathemateg fodd bynnag oedd ei brif bwnc, a phrofodd yn ddisgybl medrus, gan ennill ysgoloriaeth i astudio'r pwnc yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen.

Coleg yr Iesu, Rhydychen, lle astudiodd John Morris-Jones.

Roedd ei gyfnod yn Rhydychen yn ddylanwadol iawn. Roedd Coleg yr Iesu wedi'i gystylltu'n gryf gyda Chymru yn y cyfnod ac o ganlyniad daeth i gysylltiad â nifer o gyd-fyfyrwyr o Gymry, gan ddod yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1880, cymdeithas o fyfyrwyr â diddordeb penodol mewn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru.[1][4] Yr Athro Celtaidd Syr John Rhŷs oedd llywydd swyddogol y gymdeithas a magodd Morris-Jones gyfeillgarwch agos gyda'i gyd-sefydlwyr, yn enwedig O. M. Edwards a William Llewelyn Williams. Er mai Mathemateg oedd pwnc Morris-Jones, mynchyai darlithoedd John Rhŷs ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac wedi iddo gwblhau ei radd gyntaf mewn mathemateg llwyddodd i ennill ysgoloriaeth pellach i gwblhau gradd Meistr dan arolygiaeth Rhŷs drwy baratoi golygiad newydd o Lyfr yr Ancr. Trwy ei astudiaethau a thrwy drafodaethau Cymrdeithas Dafydd ap Gwilym datblygodd ei syniadau am lenyddiaeth Gymraeg a'r iaith, syniadau y byddai'n eu rhoi ar waith dros weddill ei yrfa.

Yr ysgolhaig ifanc

[golygu | golygu cod]
Morris-Jones mewn llun gan John Thomas tua 1885

O ganlyniad i'w arbenigedd cynyddol, penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1888. Drwy'r penodiad hwn ef oedd yr ysgolhaig cyntaf yng Nghymru i gael ei gyflogi fel athro yn y Gymraeg, neu Celteg, fel y cyfeiriwyd ati ar y pryd. Oherwydd hyn, er nad oedd eto yn ddim ond ysgolhaig ifanc ar ddechrau ei yrfa, bu ganddo o'r dechrau ddilysrwydd a hygrededd academaidd na allai sefydliadau hanfodol amaturaidd yr Orsedd a'r Eisteddfod ei anwybyddu.

Aeth ati'n fuan iawn i ddefnyddio'r cyfryngau hynny oedd ar gael iddo i wthio'i agenda ieithyddol a llenyddol. Cyfranodd yn helaeth at gylchgrawn ei gyfaill O. M. Edwards, Cymru, a sefydlwyd yn 1891 ac a brofodd yn ddylanwadol iawn. Ymhlith ei gyfraniadau i'r cylchgrawn oedd nifer fawr o gyfieithiadau o ganeuon y bardd Almaeneg Heinrich Heine; awdl, Cymru Fu, Cymru Fydd (1892), yn beirniadu agweddau ei oes sy'n enghraifft brin iawn o'r cyfnod o awdl na chafodd ei lunio ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfodol; a chyfres o erthyglau yn 1894-1896 yn ymosod ar ddilysrwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Creodd yr olaf o'r rhain yn enwedig gryn stwr, gan nad oedd dilysrwydd yr Orsedd wedi'i gwestiynu cyn hynny. Er na lwyddodd Morris-Jones i sylweddoli gwir natur yr Orsedd a swyddogaeth Iolo Morgannwg iddi, dangosodd nad oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Orsedd wedi dod i fodolaeth yn gynharach na'r 17g.[1]

Y beirniad eisteddfodol

[golygu | golygu cod]
Llun o Morris-Jones yng nhgyfrol T. Gwynn Jones, Cymeriadau (1933)

Yn ogystal â chysylltiad yr Eisteddfod gyda'r Orsedd roedd Morris-Jones yn agored feirniadol o safonau barddonol ac ieithyddol y sefydliad. Er nad oedd ffigyrau blaenllaw ym myd yr Eisteddfod megis yr Archdderwydd Hwfa Môn yn eu tro yn hoff o'r ysgolhaig ifanc, nid oedd modd iddynt anwybyddu ei ddylanwad pwysig, a phenodwyd Morris-Jones yn feirniad ar gystadleuaeth y Gadair er nad oedd erioed wedi cystadlu am y wobr ei hun, heb sôn am ei hennill. Eisteddfod Genedlaethol 1896 oedd y tro cyntaf iddo wneud hyn, ond byddai'n gwneud yn rheolaidd o hynny ymlaen tan ei farwolaeth yn 1929.

Er ei fod eisoes wedi beirniadu'r gadair sawl gwaith erbyn hynny roedd ei ddylanwad yn amlwg ar Eisteddfod Genedlaethol 1902: ef oedd y beirniad yng nghystadleuaeth y Gadair ond ef hefyd ddewisodd y testunau ar gyfer y Gadair (Ymadawiad Arthur) a'r Goron hefyd (Trystan ac Esyllt); a dau o feirdd oedd wedi'u dylanwadu ganddo, sef T. Gwynn Jones ac R. Silyn Roberts, a'u henillodd. Byddai Morris-Jones yn dyfarnu'r Gadair i Gwynn am yr eildro yn 1909, ac ymhlith y beirdd enwog eraill dyfarnodd y wobr iddynt oedd T. H. Parry-Williams (ddwywaith), J. J. Williams, Cynan a Gwenallt.

Roedd Morris-Jones yn ddadleuwr brwd, di-flewyn ar dafod a allai fod yn chwyrn iawn ei feirniadaeth o neb a anghytunai ag ef, gan gynnwys ysgolheigion eraill.[5] Daeth yn benddelw ar fudiad newydd o feirdd iau o fewn llenyddiaeth Gymraeg yn brwydro yn erbyn hen gyfundrefn yr Orsedd a'r Bardd Newydd:

T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, Silyn, etc., y tu ôl i'w harwr a'u hathro, John Morris Jones, yn marchogaeth yn eu rhwysg a'u grym, ar draws llwyfan llenyddol Cymru. 'Roedd Marsiant Williams ... a'r criw yr ymladdai ef drostynt, beirdd yr Orsedd a'r hen Eisteddfod, wedi eu gyrru neu ar fedr eu gyrru ar ffo.[6]

Ffigwr sefydliadol

[golygu | golygu cod]
Portread o John Morris-Jones a wnaed yn 1924 gan Christopher Williams (1873–1934)

Erbyn canol degawd cyntaf yr Ugeinfed Ganrif roedd John Morris-Jones yn ddi-amheuol yn un o ffigyrrau cyhoeddus amlycaf y byd Cymraeg, ac un o'r awdurdodau mwyaf, odid y mwyaf un, ar faterion ieithyddol yn enwedig, hyd yn oed gan ei elynion. Mewn adolygiad negyddol o Caniadau, cyfrol o farddoniaeth gan Morris-Jones, bu'n rhaid i'w hen elyn T. Marchant Williams gydnabod:

We believe that Professor Morris Jones possesses an unrivalled knowledge of the Welsh language, and especially of Welsh grammar. He has contributed largely to the revival of Welsh as a subject of study and instruction in our colleges and schools. We are prepared to follow him meekly and submissively when he discourses to us on old Welsh forms and idioms, and on the rules of Welsh syntax.[7]

Daliodd i gyfrannu at Cymru O. M. Edwards, ond yn 1911 sefydlodd gyfnodolyn newydd, Y Beirniad a barhoadd dan olygyddiaeth Morris-Jones hyd ei rifyn olaf yn 1919.[1] Roedd hwn yn gyfnodolyn mwy arbenigol ac academaidd ei naws na Cymru er ei fod yn dal i gynnwys rhai cerddi a gweithiau creadigol eraill megis 'Slawer Dydd W. Llewelyn Williams. Morris-Jones ei hun gyfrannodd gyfran sylweddol o'i gynnwys ynghyd â'i gyn-fyryriwr Ifor Williams, a bu'r Beirniad yn "un o gylchgronau Cymraeg mwyaf dylanwadol ei gyfnod."[8] Mewn erthyglau yn Y Beirniad gan Griffith John Williams gwelwyd ymosodiadau pellach ar ddilysrwydd yr Orsedd a ffugiadau Iolo Morgannwg ac roedd Morris-Jones yn barod iawn i'w cyhoeddi.[9]

Yn 1913 cyhoeddodd ei "brif waith ysgolheigaidd" sef A Welsh Grammar, Historical and Comparative.[1] Disgrifiad a dadansoddiad cyhwysfawr oedd hwn o Ramadeg yr Iaith Gymraeg (yn Saesneg). Gweithiwr trylwyr ac araf oedd Morris-Jones ar y gorau, ac roedd elfennau o'r gwaith a grynhowyd yn Welsh Grammar yn dyddio yn ôl dros ugain mlynedd, ac er iddo fwriadu cyhoeddi dilyniant, Welsh Syntax, ni chwblhaodd y gwaith hwnnw cyn marw, er y cyhoeddwyd y llyfr yn 1931.[1]

Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau ac ysgolheictod, urddwyd Morris-Jones yn farchog yn 1918.[1] Ni pheidiodd ei weithgarwch a bu'n beirniad ar gystadleuaeth y Gadair ym mhob un Eisteddfod Genedlaethol o 1920-1928. Yn 1921 roedd yn feirniad ar gystadleuaeth traethawd a enillwyd gan Griffith John Williams lle profodd yn derfynol mai ffugiadau Iolo Morganwg oedd nifer o'r cywyddau a briodolwyd i Dafydd ap Gwilym; cyhoeddwyd y traethawd buddugol gyda rhagymadrodd gan Morris-Jones.[9] Yn 1925 cyhoeddodd Cerdd Dafod, ei waith mawr academaidd olaf, sef dadansoddiad a disgrifiad trylwyr o holl reolau'r gynghanedd.

Erbyn 1928 roedd ei iechyd yn dechrau torri, a'r flwyddyn honno oedd y tro olaf iddo feirniadu y Gadair. Bu farw ar Ebrill 20 1929 ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.[1] Un syml iawn yw'r cofnod ar ei fedd, sef John Morris-Jones (1864-1929): Athro Cymraeg.[10]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]
Y Tŷ Coch, y cartref adeiladodd John Morris-Jones iddo'i hun yn Llanfairpwll

Priododd Morris-Jones â Mary Hughes yn 1897.[1] Roedd Mary yn ddeng mlynedd yn iau na John a dechreuasant eu perthynas yn 1890 pan nad oedd Mary ond yn un un ar bymtheg oed; ceir awgyrm bod mam Mary yn anghymeradwyo'r berthynas (ar y dechrau o leiaf) oherwydd y gwahaniaeth oedran a mynodd eu bod yn aros cyn priodi.[11]

Er iddo gefnu ar fathemateg fel maes academaidd wedi iddo gwblhau ei radd gyntaf, bu gan John Morris-Jones gryn dawn technegol ac ymarferol gyda'i ddwylo at grefftweithiau amrywiol megis ffotograffiaeth, cerfio metal a phren, adeiladu a thrwsio clociau (roedd ganddo gasgliad sylweddol ohonynt), gweithio gyda thrydan a gweithgareddau eraill.[12] Cynlluniodd dŷ iddo ef ei hun a'i deulu yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, sef y Tŷ Coch, a gwblhawyd yn 1898 ac sy'n dangos cryn ddylanwad y dylunydd Saesneg William Morris; Morris-Jones ei hun wnaeth cyfran sylweddol o addurniadau mewnol ac allanol y tŷ.[12] Roedd cartref John a Mary Morris-Jones yn enwog am y croeso a gafwyd yno, nid yn unig gan gyfeillion personol a phroffesiynol yr ysgolhaig ond hefyd ei fyfyrwyr a thrigolion y pentref.[13] Ymhlith ei gyfeillion personol oedd nid yn unig ei hen gyd-fyfyrwyr Rhydychen O. M. Edwards a William Llewelyn Williams ond hefyd nifer o'r beirdd iau y dylanwadodd cymaint arnynt megis T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd; tystia'r llythryau rhyngddynt a'u hymweliadau mynych i'r Tŷ Coch mai gwir gyfeillgarwch personol oedd rhyngddynt yn ogystal â dylanwad proffesiynol a barddonol.[14]

Cyfranodd yn helaeth at weithgaredd lleol Llanfairpwllgwyngyll gan wasanaethu fel cynghorydd lleol; yn wleidyddol cydwelai â gwerthoedd traddodiad Rhyddfrydol ei hen gyfeillion O. M. Edwards a William Llewelyn Williams; hyrwyddai athroniaeth Cymru Fydd.[15] Roedd yn fethodist Calfinaidd o ran cefndir crefyddol ond nid oedd yn gapelwr selog.[15]

Gwaddol

[golygu | golygu cod]

Yn ganolog i syniadaeth Morris-Jones ynghylch yr Iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth oedd ei wybodaeth a'i gariad at y traddodiad barddol Cymraeg fel y bu hi yn nwylo y cywyddwyr, Beibl William Morgan a gweithiau eraill hyd at Gweledigaethau'r Bardd Cwsg Ellis Wynne ar ddechrau'r ganrif flaenorol, cyn llygru'r iaith lenyddol yn nhyb Morris-Jones gan grach-ysgolheigion fel William Owen Pughe. Roedd hyn i'w weld yn ei waith ar radmadeg y Gymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiad cynnar Welsh Orthography (1893),[1] drwy'r hwn y llafuriai i ddad-wneud dylanwad Pughe ac eraill gan gyfeirio'n ôl o hyd at y ffyhonellau cynharach fel yr awdurdod ar Gymraeg cywir. Roedd i'w weld hefyd yn ei farddoniaeth ei hun a hefyd yn ei waith fel beirniad Eisteddfodol a'i ysgrifennu ar lenyddiaeth, oedd i gyd yn ymateb yn chwyrn yn erbyn ffasiynau barddonol ei oes. Roedd y gwerthoedd hyn yn amlwg yn ei weithgaredd o'r cychwyn cyntaf, a daliodd atynt mwy neu lai heb lawer o newid hyd ddiwedd ei oes.

Fel ysgolhaig

[golygu | golygu cod]
Penddelw John-Morris Jones ym Mhrifysgol Bangor.

Cyn ei amser ef, roedd sillafiad y Gymraeg yn amrywio a'r gramadeg heb ei safoni. Ymhlith prif gampau John Morris-Jones, drwy weithiau fel Welsh Orthography (1893) Welsh Grammar (1913), Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928) oedd creu safon i orgraff a gramadeg y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil ieithyddol. Drwy rinwedd ei waith fel beirniad (gweler isod) ac fel golygydd Y Beirniad cynigodd model o gywirdeb ieithyddol i'w ddilynwyr. Er ystyrir bellach bod rhai elfennau o'i ieithyddiaeth yn gyfeiliornus neu wedi'u gwrthbrofi, mae prif gorff ei waith ieithyddol "yn aros yn gadarn yn ei holl fanylion".[1]

Golygodd nifer o hen destunau: yn Rhydychen dan oruchwyliaeth John Rhŷs, golygodd argraffiad o Llyfr yr Ancr (1894), ond yn fwy dylanwadol oedd ei olygiad o argraffiad newydd o glasur Ellis Wynne Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n astudiaeth bwysig ond hefyd yn un o'r gweithiau ganddo a ysgogodd lenorion cyfoes i droi yn ôl at arddull coeth rhyddiaith Gymraeg glasurol i godi eu safonau a dadwneud effaith niweidiol dylanwad pobl fel William Owen Pughe ar y Gymraeg fel iaith lenyddol.

Mewn cyfres o erthyglau yn Cymru o 1894 i 1896, Morris-Jones oedd yr ysgolhaig cyntaf i daflu amheuaeth gyhoeddus ar ddilysrwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain gan ddangos bod yr holl dystiolaeth yn awgrymu mai beirdd Morganwg a ddyfeisiodd yr Orsedd, a hynny dim cynharach na'r 17g.[1] Er nad oedd swyddogaeth Iolo Morganwg eto wedi dod i'r amlwg adeg cyhoeddi'r erthyglau hyn, y gwaith yma oedd y cam cyntaf tuag at brofi'n ddiweddarach bod Iolo wedi dyfeisio cymaint o'i "ddarganfyddiadau". Pan ddaeth swyddogaeth Iolo yn gynyddol amlwg yn ddiweddarach drwy waith Griffith John Williams, roedd Morris-Jones yn ffigwr allweddol wrth gefnogi hyn drwy gyhoeddi erthyglau Williams yn Y Beirniad o 1918 ymlaen, dyfarnu ei draethawd Iolo Morganwg a Chywyddau yr Ychwanegiad (1921) yn fuddugol yn yr Eisteddfod ac ysgrifennu'r rhagair pan gyhoeddwyd y gwaith.[9]

Ei gyhoeddiad mawr olaf, Cerdd Dafod (1925), yw'r llyfr safonol o hyd ar reolau'r gynghanedd yn y Gymraeg; roedd hefyd yn bwysig yn y rhinwedd mai hwn oedd y gwaith cyntaf i drin, drwy gyfrwng y Gymraeg, pwnc astrus mewn dull academaidd a thechnegol. Dangosodd felly bod y Gymraeg yn iaith gymwys ar gyfer trafod testunau gwyddonol a thechnegol.[16]

Fel beirniad

[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Morris-Jones fel beirniad yng nghystadleuaeth Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1896.[17] Aeth ymlaen i wneud hynny eto yn 1900, 1902, 1904, 1905, 1906, 1909, 1912, 1915, 1916, 1918 ac yna ymhob blwyddyn yn yr 1920au hyd at 1928; cyfanswm o 18 allan o 27 Eisteddfod gyntaf yr 20g (ni chynhaliwyd Eisteddfod yn 1914). Mae rhai sylwebwyr wedi beirniadu rhai o'r penderfyniadau y gwnaeth wrth farnu'r gystadleuaeth, er enghraifft ei fethiant i wobrwyo Eifion Wyn yn 1900[18] a'r ffaith iddo ddewis gwobrwyo awdl anysbrydoledig ond cynghaneddol a gramadegol gywir John Ellis Williams ar Ystrad Fflur yn 1916 yn lle awdl barddonol ysbrydoledig ond gwallus Hedd Wyn.[19] Fodd bynnag, ar y cyfan ystyrir bod dylanwad Morris-Jones wedi bod yn hollbwysig wrth wella safonau barddonol, gan arwain at gyfnod sydd wedi'i ddisgrifio'n aml fel "dadeni" mewn barddoniaeth Gymraeg.[20] Ymhlith y beirdd y dyfarnodd y wobr iddynt oedd T. H. Parry-Williams (ddwywaith), J. J. Williams, Cynan a Gwenallt. Ataliodd y wobr ar bedair achlysur.

Fel bardd

[golygu | golygu cod]

Dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd yn ystod ei fywyd ond roedd y gyfrol honno, Caniadau (1907) yn boblogaidd ar y pryd.[21][22] Ymhlith y cerddi o'i eiddo ceir nifer o delynegion fel Cwyn y Gwynt, Cywyddau i'w gyfeillion O. M. Edwards ac William Llewelyn Williams, dwy awdl - Cymru Fu: Cymru Fydd a Salm i Famon - sy'n nodedig fel enghreifftiau cymharol brin o awdlau na chawsant eu llunio ar gyfer cystadleuaeth, a nifer fawr o gyfieithiadau, yn enwedig o farddoniaeth y bardd Almaeneg Heinrich Heine a'r bardd Persieg Omar Khayyam. Er i rai o'r rhain ymddangos am y tro cyntaf yn Caniadau (1907) roeddynt bron bob un ohonynt wedi'u cyfansoddi erbyn diwedd yr 1890au; ychydig iawn o gerddi luniodd Morris-Jones yn ystod yr 20g er iddo lunio cyfieithiad o gerdd hir gan Thomas Gray yn 1911;[23] ymddangosodd rhai cyfieithiadau o emynau Saesneg ganddo yn Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidda a Wesleaidd (1930).

Mae'r cyfieithiadau o waith Omar Khayyam yn nodedig fel enghraifft cynnar iawn o gyfieithiadau i'r Gymraeg o weithiau llenyddol o'r tu allan i Ewrop. Roedd barddoniaeth Khayyam yn boblogaidd ar y pryd mewn nifer o gyfieithiadau Saesneg, fodd bynnag gweithiai Morris-Jones yn uniongyrchol o'r Berseg wrth lunio ei gyfieithiadau. Mae cyfieithiadau Morris-Jones o waith Khayyam wedi ei disgrifio fel y gorau o'i weithiau barddonol.[1]

Ystyrir yn gyffredinol mai yn rhinwedd ei waith ysgolheigaidd a beirniadol y cafodd y dylanwad mwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg, ac mai bardd cymharol gyfyngedig ydoedd. Dadleua Allan James y dylir ystyried barddoniaeth Morris-Jones, gan gynnwys ei gyfieithiadau, fel rhan anatod o'i raglen ehangach o lywio cwrs llenyddiaeth Gymraeg; enghreifftiau oeddynt a fwriadwyd i hyrwyddo'r safonau hynny ystyriai Morris-Jones yn hanfodol i farddoniaeth, sef cywirdeb ieithyddol, mireinder ac eglurder mynegiant.[24] Yn sicr roeddynt yn cynrychioli safon barddonol tra gwahanol i farddoniaeth y Bardd Newydd.[20] Roedd ei delynegion yn enwedig yn ddylanwadol wrth sefydlu'r ffurf fel un boblogaidd i feirdd rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif,[1] ac mae ambell un ohonynt megis Cwyn y Gwynt ac Y Gwylanod wedi dod yn rhan barhaol o ganon llenyddol y Gymraeg drwy eu cynnwys droeon mewn blodeugerddi megis yr Oxford Book of Welsh Verse a Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif.

Fel athro

[golygu | golygu cod]

Yn rhinwedd ei swydd ym mhrifysgol Bangor dysgodd nifer o unigolion ddaeth yn bwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys Kate Roberts,[25] Griffith John Williams[9] Lewis Valentine, Ifor Williams. Thomas Richards, John Lloyd-Jones ac eraill.[26] Ceir darlun cymysg o'i ddarlithoedd, gyda nifer o'i gyn-disgyblion yn ei ddisgrifio fel darlithydd digon di-fflach a marwaidd ar adegau ond eto'n ei glodfori am ei arbenigedd a'i awdurdod, a'i allu i ennyn diddordeb a chariad ei ddisgyblion mewn llenyddiaeth Gymraeg. Oherwydd ei statws a'i enw cyhoeddus trinid ef fel "hanner-duw" gan rai yn y Brifysgol.[27] Nodir yn enwedig hefyd ei angerdd wrth adrodd barddoniaeth.[26]

Er iddo frwydro'n di-ildio o blaid yr Iaith Gymraeg ar hyd ei oes, ac er iddo arddel safbwynt mwy optimistaidd na llawer o'i gyfoedion ynghylch dyfodol yr Iaith Gymraeg fel iaith fyw, Saesneg oedd cyfrwng holl weithgareddau dysgu John Morris-Jones; yn hyn o beth roedd yn dilyn ei athro yntau Syr John Rhŷs ac arferion cyffredinol ei oes; serch hynny beirniadwyd ef gan rai o'i ddisgyblion am hyn.[26]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwaith John Morris-Jones

[golygu | golygu cod]
  • (gol.) Llythyrau Goronwy Owen (Lerpwl 1895)
  • (gol.) Ellis Wynne, Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (Bangor: Jarvis & Foster, 1898)
  • Caniadau (1907). Barddoniaeth.
  • A Welsh Grammar, Historical and Comparative (Rhydychen, 1913)
  • Taliesin (1918). Cyfrol XXVIII o'r Cymmrodor wedi'i neilltuo yn gyfangwbl i astudiaeth Morris-Jones.
  • An Elementary Welsh Grammar (Rhydychen: Clarendon Press, 1921)
  • Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (1925)
  • Orgraff yr Iaith Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Penillion Omar Khayyâm wedi eu cyfieithu o'r Berseg i'r Gymraeg (Gwasg y Gregynnog, 1928)
  • Welsh Syntax (1931)

Ymdriniaethau

[golygu | golygu cod]
  • Thomas Parry, John Morris-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958; 2/1972)
  • Bedwyr Lewis Jones, "Syr John Morris-Jones", yn Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Caernarfon: Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)
  • John Morris-Jones 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol, gol. Huw Waters (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1986)
  • Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 "MORRIS-JONES (gynt JONES), Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. "Sir John Morris-Jones", Britannica; adalwyd 3 Tachwedd 2025
  3. "John Morris-Jones: Pentref Ffriddoedd", Prifysgol Bangor; adalwyd 3 Tachwedd 2025
  4. "Cymdeithas Dafydd ap Gwilym (The Welsh Society)". Oxford University Students' Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2016. Cyrchwyd 31 October 2016.
  5. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt179-80
  6. "T. H. Parry-Williams: Oxoniensis", Y Traethodydd, cyf. CXXX (554-557); t.332
  7. T. Marchant Williams, "Review: Caniadau by John Morris-Jones", The Nationalist, cyf. I-X (Rhagfyr 1907): 26-30
  8. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), s.v. "Beirniad, Y"
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 "WILLIAMS, GRIFFITH JOHN (1892 - 1963), Athro prifysgol ac ysgolhaig Cymraeg". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  10. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.285
  11. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.73-74
  12. 12.0 12.1 Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.91-96
  13. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.88-91
  14. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.278-282
  15. 15.0 15.1 Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), t.119-120
  16. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), t262
  17. "Beirniadaeth y Gadair", Y Cymro 9 Gorffennaf 1896, t.5
  18. BBC Cymru Canrif o Brifwyl 1900
  19. Alan Llwyd, Gwae fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn (Cyhoeddiadau Barddas, 1991)
  20. 20.0 20.1 Geraint H. Jenkins, "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg": Yr Iaith Gymraeg a'i Pheuoedd 1801-1911 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), t.262
  21. J. Gwenogfryn Evans, "Caniadau John Morris-Jones", Y Traethodydd, cyf. LXIII (1908): 106-114
  22. Anhysbys, Yr Herald Cymraeg, 3ydd Rhagfyr 1907, t.7
  23. Morris-Jones (1934) Salm i Famon a Marwnad Grey, Llyfrau'r Ford Gron, t.4
  24. Allan James (2011) John Morris-Jones (Dawn Dweud), Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru tt177-178.
  25. "Mwy am Ysgol y Gymraeg", Prifysgol Bangor; adalwyd 3 Tachwedd 2025
  26. 26.0 26.1 26.2 Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.100-109
  27. Allan James, John Morris-Jones, Dawn Dweud (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), tt.106
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: