Ieithyddiaeth

Oddi ar Wicipedia
Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Seineg
Ffonoleg
Morffoleg
Cystrawen
Semanteg
Semanteg eiriadurol
Arddulleg
Pragmateg
Ieithyddiaeth hanesyddol
Ieithyddiaeth gymdeithasegol
Ieithyddiaeth gymharol
Caffael iaith
Ieithyddiaeth gymhwysol
Ieithyddiaeth wybyddol

Yr astudiaeth wyddonol o iaith yw’r Ieithyddiaeth. Cynhwysa'r ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymchwil yn semanteg; gramadeg yw'r enw a roddir ar ymchwil strwythur ieithyddol, ac fe gynhwysa dri is-faes, sef morffoleg (yr astudiaeth o ffurfiad a chyfansoddiad geiriau), cystrawen (yr astudiaeth o'r rheolau a phenderfynant sut y cyfunir geiriau i ffurfio ymadroddion a brawddegau), a ffonoleg (yr astudiaeth o systemau sain ac unedau sain mewn iaith). Astudiaeth berthnasol i'r olaf, yn ymwneud â phriodweddau ffisegol seiniau llafar, yw seineg. Fe elwir unigolyn a wna ymchwil ieithyddol yn ieithydd.

Mae ieithyddiaeth, fel pob cangen o wyddoniaeth, yn faes rhyngddisgyblaethol; fe dynna ar waith mewn meysydd megis seicoleg, gwybodeg, cyfrifiadureg, athroniaeth, bywydeg, niwrowyddoniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, ac acwsteg.

Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig[golygu | golygu cod]

Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, a'r modd mae pobl yn dysgu ieithoedd (yn enwedig eu mamieithoedd). Gall pob bod dynol (heblaw am rai achosion patholegol) gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir (neu arwyddir) o'i hamgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid yw'r gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg i'r gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn ag ehangder y potensial hwn a'i gyfyngiad i iaith yn unig. Cred rhai fod nifer helaeth o osodiadau haniaethol ieithyddol wedi eu hamgodio yn yr ymennydd; cred eraill mai cynnyrch gwybyddiaeth gyffredinol ddynol yw iaith. Cytunir serch hynny nad oes gwahaniaethau genetig cryf tu ôl i'r gwahaniaethau ieithyddol a fodolant: gall unrhyw blentyn iach ddysgu unrhyw iaith ddynol a'i hamgylchyna, pa bynnag gefndir teuluol neu ethnig sydd ganddo.[1]

Datblygodd ieithyddiaeth yr 20g i fod yn "strwythuriaethol" gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith Ferdinand de Saussure ddiwedd y 19g a ddechrau'r ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr 20g gan theori Gramadeg cynhyrchiol, sydd yn dilyn gwaith Noam Chomsky, a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol (er nad ydyw yn hollol strwythuriaethol yn ystyr llawn Saussure). Mae gramadeg cynhyrchiol yn honni y genir bodau dynol efo gwybodaeth gymhleth ieithyddol a rheola'n gyfyng y broses o ddysgu iaith, neu ieithoedd, ym mhlentyndod. Mae'r theori yn "fodiwlaethol" gan y honna fod y wybodaeth hon yn benodol ieithyddol — fe fodola felly fodiwl ieithyddol yn yr ymennydd a elwir yn "ddyfais caffaeliad iaith" — yn hytrach na fod yn gyffredin i wybyddiaeth ddynol. Parha gramadeg gynhyrchiol i ddominyddu'r ddisgyblaeth ddechrau'r unfed ganrif ar hugain; serch hynny, mae theorïau ieithyddol eraill, rhai ohonynt yn anfodiwlaethol, wedi ennill poblogaeth dros y degawdau diwethaf — mae ieithyddiaeth wybyddiaethol yn enghraifft amlwg a chymharol lwyddiannus.

Cyfeiriadur[golygu | golygu cod]

  1. Serch hynny, awgryma ymchwil diweddar y gall fiasau genetig gwan, dros nifer o genedlaethau, ddylanwadu ar esblygiad iaith, yn dilyn at ddosbarthiad anddamweiniol o rai nodweddion ieithyddol ar draws y byd. (Dediu, D. & Ladd, D.R. (2007). Linguistic tone is related to the population frequency of the adaptive haplogroups of two brain size genes, ASPM and Microcephalin, PNAS 104:10944-10949 Archifwyd 2008-04-20 yn y Peiriant Wayback.; crynodeb ar gael yma Archifwyd 2008-06-16 yn y Peiriant Wayback.)


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg


Chwiliwch am ieithyddiaeth
yn Wiciadur.