Ffonoleg

Oddi ar Wicipedia

Ffonoleg yw'r gangen o ieithyddiaeth sy'n astudio systemau seiniau mewn iaith a sut mae iaith yn defnyddio seiniau i gyfleu gwahaniaethau mewn ystyr. Mae ffonoleg yn ymwneud â seiniau fel unedau y tu fewn i system ieithyddol, tra bod seineg yn ymwneud â disgrifiad a dadansoddiad manwl o'r seiniau ei hunain heb ystyried eu lle o fewn system ieithyddol.

Uned sylfaenol ffonoleg yw'r ffonem, yr uned leiaf i gyfleu gwahaniaethau ystyr mewn iaith benodol. Un gorchwyl pwysig i ffonolegwyr sy'n astudio iaith benodol yw pennu beth yw ffonemau'r iaith honno, disgrifio eu dosbarthiad a sut maen nhw'n effeithio ar ei gilydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.