Ferdinand de Saussure

Oddi ar Wicipedia
Ferdinand de Saussure
Ganwyd26 Tachwedd 1857 Edit this on Wikidata
Genefa Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Vufflens-le-Château Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, addysgwr, academydd, cymdeithasegydd, athronydd, phonologist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amsemiology, structural linguistics, Geneva School, Course in General Linguistics Edit this on Wikidata
TadHenri de Saussure Edit this on Wikidata
PriodMarie Faesch Edit this on Wikidata
PlantRaymond de Saussure, Jacques de Saussure Edit this on Wikidata
llofnod

Ieithydd o'r Swistir oedd Ferdinand de Saussure (26 Tachwedd 185722 Chwefror 1913). Mae'n cael ei barchu fel tad ieithyddiaeth gyfoes. Roedd ei syniadau yn sail i strwythuriaeth, theori a ddaeth yn ganolog i ieithyddiaeth yr 20g, ac a oedd yn ddylanwadol iawn mewn meysydd eraill megis anthropoleg a beirniadaeth lenyddol. Ganwyd yng Ngenefa a roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Genefa, lle traddododd gyfres o ddarlithoedd yn amlinellu ei syniadau am iaith yn ystod y blynyddoedd 1906 tan 1911. Cyhoeddwyd y darlithoedd hyn gan ei gyn-fyfyrwyr ar ôl ei farwolaeth fel Cwrs Ieithyddiaeth Gyffredinol (Cours de linguistique générale), llyfr pwysicaf ieithyddiaeth gyffredinol hanner cynta'r 20g. Bu farw yn Vufflens-le-Château ger Morges.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Ferdinand de Saussure yn Ngenefa yn 1857. Ar ôl astudio Ffiseg a Chemeg ym Mhrifysgol Genefa, penderfynodd droi at astudiaethau ieithyddol, gan gofrestru ym Mhrifysgol Leipzig, un o ganolfannau mwyaf llewyrchus ieitheg y 19g. Canolfan y Junggrammatiker oedd Leipzig, grŵp o ysgolheigion oedd wedi trawsnewid ieithyddiaeth hanesyddol gan awgrymu bod ieithoedd yn newid yn ôl cyfreithiau rheolaidd. Yn 1879, yn un ar hugain oed, cyhoeddodd Mémoire sur le système primitif des voyelles dans les langues indoeuropéenes, gwaith a ragwelodd rai o ddarganfyddiadau pwysicach ieithyddiaeth hanesyddol yr 20g. Ar ôl gadael yr Almaen, bu Saussure yn dysgu ieithoedd Indo-Ewropeaidd cynnar ym Mharis am un ar ddeg o flynyddoedd cyn dychwelyd i'w ddinas enedigol. Roedd yn gyfrifol yno am ddysgu ieithyddiaeth gyffredinol o 1906 tan ei farwolaeth ym 1911. Ar ôl ei farwolaeth penderfynodd dau o'i gyn-fyfyrwyr, Charles Bally ac Albert Sechehaye gyfuno eu nodiadau a'u cyhoeddi fel Cwrs Ieithyddiaeth Gyffredinol (Cours de linguistique générale), a ymddangosodd ym 1916.

Cyfraniad Saussure at ieithyddiaeth gyffredinol[golygu | golygu cod]

Iaith fel system arwyddion[golygu | golygu cod]

Gwelodd Saussure iaith fel system o arwyddion ac ieithyddiaeth fel rhan o astudiaeth arwyddion, semioleg. Elfen ag ystyr yw arwydd. Mae arwyddion yn bod y tu fewn ac y tu allan i iaith. O fewn iaith, mae geiriau ei hun yn arwyddion, ac felly hefyd y mae patrymau gramadegol. Er enghraifft, mae trefn y geiriau mewn brawddeg yn cyfleu ystyr. Y tu hwnt i iaith, mae arwyddion ymhobman. Mae ystyr gan baneri, arwyddion ffyrdd, crysau pêl-droed a goleuadau traffig, ac felly maen nhw i gyd yn arwyddion.

Awgrymodd Saussure bod pob arwydd, gan gynnwys arwyddion ieithyddol, yn cynnwys dwy ran: yr arwyddwr (Ffrangeg signifiant) a'r arwyddedig (Ffrangeg signifié). Ffurf yr arwydd, er enghraifft sŵn gair neu siâp a lliw baner, yw'r arwyddwr. Y cysyniad y mae'r arwydd yn ei gyfleu yw'r arwyddedig. Er enghraifft, mae'r arwydd 'coeden' yn cynnwys dwy ran, patrwm y seiniau /koɪden/ a'r ddelw o goeden yn ein meddyliau. Nid coeden benodol yw'r arwyddedig, ond delw o'r hyn sy'n nodweddiadol am goeden, yr hyn sy'n gwneud rhywbeth yn goeden.

Arwydd 'Dim beicio'

Sylweddodd Saussure bod arwyddion ieithyddol yn fympwyol neu yn gonfensiynol. Hynny yw, does dim perthynas naturiol neu annatod rhwng y cysyniad a'r ffurf ieithyddol a ddefnyddir i'w gyfleu. Buasai unrhyw gyfres o seiniau (arwyddwr) wedi bod yr un mor addas. Does dim rheswm pam bod coeden yn air gwell neu waeth ar gyfer mynegi'r syniad o goeden na, dyweder, tree neu arbre neu Baum. Mae hyn yn gwneud iaith yn wahanol i lawer o systemau arwyddion eraill. Mae arwyddion naturiol, lle mae cysylltiad naturiol rhwng ffurf yr arwydd a'r hyn y mae yn ei gynrychioli, yn bodoli. Er enghraifft, mae enfys yn arwydd naturiol o law a heulwen ar yr un pryd. Dyw arwyddion mae pobl yn eu dyfeisio'n fwriadol ddim mor naturiol â hyn fel rheol, ond mae ganddynt nodweddion eiconig. Hynny yw, maen nhw'n rhannol naturiol ac yn rhannol gonfensiynol. Mae'r arwydd ffordd ar y chwith yn cyfleu'r ystyr 'Dim beicio'. Mae llun y beic yn (weddol) naturiol: mae'n amlwg bod yr arwydd yn ymdrin â beiciau, ac nid, dyweder, ceir neu geffylau. Ond mae'r gylch goch yn gonfensiynol. Mae'n cyfleu gwaharddiad, ond heb wybodaeth neilltuol am arwyddion ffyrdd, does dim ffordd i wybod hynny ymlaen llaw. Dyw arwyddion naturiol fel yr enfys ddim yn amrywio o un wlad i'r llall; ond mae arwyddion eiconig, ac, yn enwedig, arwyddion confensiynol, yn gallu amrywio. Dyma pam bod ieithoedd yn gallu ymneilltuo oddi wrth ei gilydd.

Iaith fel system gwrthgyferbyniadau[golygu | golygu cod]

Mae'r syniad o iaith fel system o arwyddion yn arwain at lith o oblygiadau. Un ohonyn nhw yw'r syniad bod iaith yn system o wahaniaethau neu wrthgyferbyniadau. Mae'r gair llan yn gweithio fel uned yn ein iaith, nid o achos y seiniau sydd ynddo, ond o achos ein bod ni'n gallu gwahaniaethu rhyngddo a geiriau eraill. Rydyn ni'n gweld neu glywed gwahaniaeth rhwng llan a man a lan ac yn y blaen. Defnyddiodd Saussure gydweddiad rhwng iaith a gêm wyddbwyll i egluro hyn. Mewn gêm wyddbwyll, does dim ots pa liw yw'r darnau neu o ba ddeunydd maen nhw'n cael eu gwneud. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y darnau yn wahanol i'w gilydd. Os yw darn yn mynd ar goll, cawn ni lenwi ei le â gwrthrych arall heb newid cyflwr y gêm. Ond os ydyn ni'n dileu'r gwahaniaeth rhwng esgob a brenin, mae'r gêm yn newid yn enfawr. Mae hyn yn golygu mai ffurf yw iaith yn hytrach na sylwedd. Hynny yw, does dim ots beth yw cyfrwng iaith. Gellir mynegi iaith mewn llawer cyfrwng: ar lafar, ar bapur, drwy gôd Morse, drwy semaffor. Y ffurf haniaethol y tu ôl i'r holl bethau hyn yw iaith.

Roedd y syniad bod iaith yn system gwrthgyferbyniadau yn cynnig ateb i broblem fawr arall. Sut ydyn ni gwybod pa wahaniaethau mewn iaith sy'n bwysig? Mae pob ymadrodd yn wahanol. Pe dywedwn ni'r gair coeden ar ddau achlysur, gallai ffisegydd, gyda'r offer priodol, ddangos y gwahaniaethau rhwng y ddau. Er enghraifft, fyddai hyd y gair neu safle'r tafod ddim yr un ar y ddau achlysur. Dyw gwahaniaethau fel hyn ddim yn bwysig. Ond sut ydyn ni'n gwybod hynny? Ateb Saussure oedd nad yw arwyddion yn wirioneddol wahanol ond os ydyn nhw'n llunio gwrthgyferbyniad, hynny yw, os oedden nhw'n gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd o ran ystyr. Dyw'r ddwy enghraifft o'r gair coeden ddim yn wahanol, oherwydd nad ydyn nhw'n cyfleu ystyr gwahanol. Dangosodd Saussure hyn drwy gydweddiad trên. Mae pobl yn sôn am drên 0825 Paris-Genefa sy'n rhedeg bob dydd. Rydyn ni'n barod i dderbyn mai'r 'un' yw'r trên bob dydd yn yr un ffunud ag yr ydyn ni'n derbyn mai'r un yw'r ddwy enghraifft o'r gair coeden uchod. Ond ym mha ystyr y mae'r trên yn dal yr un? Mae'r cerbydau, y peiriant a'r gyrrwr yn newid o ddydd i ddydd. Os yw'r trên yn hwyr, y trên 0825 Paris-Genefa yw ef o hyd. Yr unig beth sy'n gyson yw ei le yn yr amserlen gyfan, hynny yw, ei le mewn system gwrthgyferbyniadau.

Mae'r syniad bod lle yr arwydd o fewn y system yn bwysicach na ffurf yr arwydd ei hun yn arwain at gyferbyniad pwysig arall, sef rhwng gwerth arwydd (Ffrangeg valeur) a'i arwyddocâd (Ffrangeg signification). Gwerth gair yw ei le o fewn y system ieithyddol; ei arwyddocâd yw ei ystyr ar achlysur penodol. Mae'r gwahaniaeth yn arbennig o amlwg os edrychwn ni ar ragenwau. Mae gwerth y rhagenw fi yn dibynnu ar ei le yn y system ieithyddol, lle mae'n cyferbynnu â rhagenwau eraill megis ti, ni a hi. O fewn y system hon, ei werth yw 'y siaradwr'. Ond mae ei arwyddocâd ar achlysur penodol yn dibynnu ar bwy sy'n siarad. 'Dafydd' fydd arwyddocâd fi ar un achlysur, 'Angharad' ar achlysur arall, 'Llŷr' ar achlysur arall ac yn y blaen. Mae hyn yn golygu nad yw hi'n bosib mewn egwyddor gyfieithu'n ffyddlon o un iaith i'r llall. Hyd yn oed os yw hi'n ymddangos bod un gair yn cyfateb i air arall yn yr iaith arall, mae ei le yn y system yn wahanol.

Y golygfeydd syncronig a deiacronig[golygu | golygu cod]

Hyd at ddechrau'r 20g, roedd y rhan fwyaf o ieithwyr yn ieithwyr hanesyddol. Iddyn nhw, gorchwyl eu maes oedd olrhain hanes yr ieithoedd a welir heddiw, drwy astudio'r ieithoedd clasurol y mae ieithoedd heddiw yn tarddu ohonynt. Un o lwyddiannau mawr ieithyddiaeth y 19g oedd profi bod y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop a De Asia yn perthyn i'w gilydd, hynny yw, roedden nhw wedi datblygu allan o'r un iaith, Proto-Indo-Ewropeëg. I esbonio pam bod iaith fel y mae, bydden nhw'n adrodd ei hanes. Ond gwelodd Saussure ei bod hi'n bosib disgrifio iaith sef system syncronig, heb gyfeirio at ei hanes. Dyw siaradwyr iaith ddim yn gwybod ei hanes, ond maen nhw'n siarad eu iaith yn berffaith. Felly y gall ieithwyr naill ai disgrifio'r iaith yn ei chyflwr heddiw neu ddisgrifio ei hanes. Nid yr un fydd y ddau ddisgrifiad. Yn ôl Saussure, mae'r ddwy agwedd yr un mor werthfawr, ond dylid gwahaniaethu rhyngddynt yn llym. Dyw ffeithiau hanesyddol ddim yn berthnasol felly i ddisgrifiad iaith fel y mae heddiw.

Langue a parole[golygu | golygu cod]

Roedd agwedd Saussure at astudio iaith yn pwysleisio y dylid astudio'r system ieithyddol, system gwrthgyferbyniadau a perthnasau sy'n cysylltu gwahanol elfennau'r system. Dyna langue. Gwnaeth Saussue wahaniaeth pwysig rhwng langue, y system ieithyddol, a parole, achosion o ddefnyddio'r iaith ar achlysur penodol. Mae iaith (langue) yn debyg i sgôr symffoni, yn hytrach na'r perfformiad ohono. Prif ddiddordeb yr ieithydd, yn ôl Saussure, yw langue. Mae iaith yn gyfres o reolau sy'n amlygu ei hun os edrychwn ni ar holl gymuned. Cytundeb cymdeithasol yw iaith rhwng aelodau'r gymuned. Mae pobl yn 'cytuno' defnyddio'r system er mwyn cyfathrebu. Mae langue yn gorwedd y tu allan i'r unigolyn gan fod yr unigolyn heb rym i'w newid.

Cyfraniad Saussure at ieithyddiaeth hanesyddol[golygu | golygu cod]

Er y sonir am Saussure heddiw gan amlaf fel tad ieithyddiaeth syncronig ddisgrifiadol, yn ystod rhan fwyaf ei oes, ieithyddiaeth hanesyddol oedd ei faes ymchwil. Gwnaeth gyfraniad pwysig at y maes hwn hefyd. Fe oedd yn gyfrifol am gynnig y 'Ddamcaniaeth Freuannol'. Awgrymodd Saussure i rai cytseiniaid (y cytseiniaid breuannol) wedi bodoli yn Proto-Indo-Ewropeëg ond eu bod nhw wedi diflannu ym mhob un o'r ieithoedd a ddatblygodd allan ohoni. Hawliodd i'r cytseiniaid hyn effeithio ar y seiniau o'u cwmpas cyn diflannu. Roedd y Ddamcaniaeth Freuannol yn ddadleuol iawn yn nyddiau Saussure, ond ym mlynyddoedd cynnar yr 20g daeth archaeolegwyr o hyd i gyfnodion yr iaith Hetheg yn Anatolia. Drwy ddadansoddi'r cofnodion hyn, gwelwyd bod yna gytseiniaid cyfatebol yn Hetheg yn yr union fannau lle roedd Saussure wedi eu rhagweld.