Gwyddbwyll

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
a b c d e f g h
8
Chessboard480.svg
a8 black rook
b8 black knight
c8 black bishop
d8 black queen
e8 black king
f8 black bishop
g8 black knight
h8 black rook
a7 black pawn
b7 black pawn
c7 black pawn
d7 black pawn
e7 black pawn
f7 black pawn
g7 black pawn
h7 black pawn
a2 white pawn
b2 white pawn
c2 white pawn
d2 white pawn
e2 white pawn
f2 white pawn
g2 white pawn
h2 white pawn
a1 white rook
b1 white knight
c1 white bishop
d1 white queen
e1 white king
f1 white bishop
g1 white knight
h1 white rook
8
7 7
6 6
5 5
4 4
3 3
2 2
1 1
a b c d e f g h
Bwrdd gwyddbwyll llawn ar ddechrau gêm
Gwerin gwyddbwyll a ddarganfuwyd yng Nghastell Ynysgynwraidd, yn dyddio o'r 12ed ganrif, ar y chwith. Mae'r darn a welir ar y dde yn dod o Gaerllion.
Darlun ar garreg Ockelbo, Sweden.

Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau golau a thywyll yw gwyddbwyll. Nod Gwyddbwyll yw gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fel bod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu China hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop. Roedd 'Gwyddbwyll Gwenddoleu' yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[1]

Strwythur[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun - hynny yw Brenhines du ar sgwâr tywyll, Brenhines gwyn ar sgwâr golau. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan fod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat.

Defnyddir nodiant algebraidd yn y gêm fodern i ddisgrifio a chofnodi gêmau.

Mae pob darn gwyddbwyll yn medru symud mewn ffordd wahanol, ac mae gan bob darn werth arbennig wrth chwarae, gan ddechrau gyda'r gwerinwr lleiaf pwerus. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:

Wedi dysgu sut i symud y darnau mae chwaraewyr gwyddbwyll yn mynd ati astudio

Mae gwyddbwyll yng Nghymru yn cael ei reoli gan Undeb Gwyddbwyll Cymru sy'n aelod o FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.

Gwyddbwyll Geltaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bwrdd Gwyddbwyll Geltaidd

Defnyddid y gair "Gwyddbwyll" ( Gwezboell yn y Llydaweg, Fidchell yn y Wyddeleg) yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Cyfeirio at gêm arall â tharddiad Celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau, gêm tebycach i dawlbwrdd, a drafodir isod. Heddiw ceir gemau a elwir "gwyddbwyll Geltaidd" sy'n seiliedig ar yr ychydig wybodaeth sydd wedi goroesi ynglŷn â'r gêm Fidchell o Iwerddon a'r gêm tawlbwrdd o Gymru. Mae'r rheolau yn hanu o gemau Tafl y Germaniaid. Yn wahanol i'r wyddbwyll fodern gonfensiynol, mae gwyddbwyll Geltaidd yn gwrthwynebu dau lu anghyfartal a chanddynt ddau amcan gwahanol. Mae'r brenin yn cael ei warchae yn ei gastell canolog, wedi ei amddiffyn gan wyth tywysog. Gyda chymorth y tywysogion mae'n ceisio dianc y gelynion trwy gyrraedd un o'r bedair cornel. Mae yna 16 o elynion, mewn pedwar grŵp o bedwar. Maen nhw'n ceisio dal y brenin trwy ei flocio a rhwystro ei symudiadau.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgwylid i bob gŵr bonheddig gwerth ei halen geisio meistroli'r ‘bedair camp ar hugain’, a rhestrir gwyddbwyll fel y gyntaf o'r campau hynny. Fe’i crybwyllir hefyd yn y chwedlau cynharach, sef Breuddwyd Maxen, Breuddwyd Rhonabwy a Pheredur, ac mewn barddoniaeth.[2] Mae'r cofnod cyntaf o'r gair yn y Gymraeg mewn cerdd fawl i Guhelyn Fardd (fl. tua 1100 - 1130).[3]

Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y gêm rydym heddiw'n ei galw'n 'wyddbwyll yn ei chlytiau, ond yn megis dechrau, wedi'i chyflwyno i Loegr gan y Normaniaid. Ymledodd yn eitha cyflym i bob rhan o gymdeithas erbyn diwedd yr Oesoedd Canol.[4] Rhys Goch Eryri (c.1365 - 1440) a gyflwynodd y gair 'sïes' yn un o'i gerddi.[5] Yn y rhestr campau crybwyllir y ddau - sïes a gwyddbwyll, sy'n ategu'r farn eu bod yn ddwy gêm wahanol. Mae Lewys Glyn Cothi a Ieuan ap Rhydderch ill dau'n cyfeirio at 'at sïes' a bathiad gan Hywel Swrdwal yw 'siec mad' sy’n fenthyciad o’r Saesneg check mate.[6]

Disgrifiad o Dawlbwrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Tawlbwrdd

Roedd y tawlbwrdd yn un o'r anrhegion a roddai'r brenin i'w uchelwyr: ei ynadon llys a'i feirdd.[7] Mae Guto’r Glyn yn crybwyll y gêm (ond nid gwyddbwyll), a chanodd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin:

Gwreiddiol Ystyr
Ni fedrai iarll pan fu drin
Warae cnocell â’r Cnwcin;
Gwarae a wnaeth ein gŵr nod
Towlbwrdd gwŷr duon Talbod,
Gwarae bars â’r Mars y mae,
Eithr y gŵr aeth â’r gwarae.
Ni fedrai iarll pan fu’n frwydr
chwarae cis â’r mab o’r Cnwcin;
chwarae a wnaeth ein rhyfelwr hynod
dawlbwrdd gwŷr duon Talbod,
chwarae bars â’r Mers y mae,
ond y rhyfelwr a enillodd y gêm.

[8]

Cofnododd Robert ap Ifan yn 1587 ddisgrifiad (a llun) o'r gêm, gan ddweud ei fod yn cael ei chwarae ar fwrdd 11×11 gyda 12 darn ar ochr y brenin a 24 ar ochr y gwrthwynebydd. Dyma'r hyn a sgwennodd:[9]

Dylid chwarae'r gêm gyda'r brenin yn y canol a deuddeg o ddynion o'i gwmpas, gyda dau-ddeg-pedwar o ddynion yn ceisio ei ddal. Gosodir y rhai hyn fel a ganlyn: chwech yng ngahanol pob ochr o'r bwrdd yn y chwe man canolig. Mae'r ddau berson yn symud y darnau. Os oes darn yn dod rhwng dau o ddarnau'r gwrthwynebwr yna mae'n marw, a theflir y darn allan o'r gêm. Ond os yw'r brenin ei hun yn dod rhwng dau o ddarnau ei wrthwynebydd, yna os dywedwch "Cym bwyll, gwylia dy frenin!" cyn iddo symud i'r rhan honno (hy rhwng dau ddarn) ac os na all symud, yna mae'n cael ei ddal. Os yw eich gwrthwynebwr yn dweud "Fi yw dy was!" ac yn rhoi un o'i ddarnau rhwng dau o'ch darnau chi, yna ddaw dim drwg o hynny. Ac os yw'r brenin yn medru cyrraedd y linell..., mae'n ennill y gêm.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III.
  2. A chwaryy di wydbwyll?: ystyr ac arwyddocâd y gêm gwyddbwyll mewn Chwedlau Cymraeg Canol; M. Hughes; Llên Cymru, t. 32 (2009), 33-57.
  3. [Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950- ), 1754; Hughes, A chwaryy di wydbwyll?.
  4. Pleasures and Pastimes in Medieval England gan C. Reeves; (Stroud, 1995), t. 77-9.
  5. gutorglyn.net; adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  6. Gwaith Lewys Glyn Cothi gan Dafydd Johnston (gol.) (Caerdydd, 1995), 208.4; R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch gan D.F. Evans (gol.) (Aberystwyth, 2003), 3.110; Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (Aberystwyth, 2000), 11.49-50.
  7. Llyfr Iorwerth gan A.R. Wiliam (gol.); (Caerdydd, 1960), 10.9, t. 13.15.
  8. gutorglyn.net; adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  9. Ifan, Robert ap (1587). Y Llyfrgell Genedlaethol, MS 158. Dyfynnwyd yn llyfr Murray, H. J. R. (1951). A History of Board-Games Other than Chess. Gwasg Rhydychen. ISBN 0-19-827401-7. 1951, tud.63.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hooper, David a Whyld, Kenneth. The Oxford Companion to Chess (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1984).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:








Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am gwyddbwyll
yn Wiciadur.