Methmat

Oddi ar Wicipedia
Top chwith: mae'r Marchog a'r Brenin gwyn yn cyfuno i atal Brenin du rhag symud, ond nid yw mewn Siach.
Top dde: sefyllfa gyffredin ar ddiwedd gêm; mae du wedi defnyddio'i Frenin yn dda i sicrhau gêm gyfartal.
Gwaelod chwith: mae gwyn wedi colli'r cyfle i gael Siachmat ac mae'r Methmat yn golygu ei bod yn gêm gyfartal.
Gwaelod dde: mae gwyn un symudiad i ffwrdd o Siachmat (Bg2), ond gan mai tro du yw hi, mae'n Fethmat

Mae Methmat yn sefyllfa mewn Gwyddbwyll lle nad yw'r chwaraewr sydd i symud mewn Siach, ond nid yw'n medru symud yn gyfreithlon. Mewn sefyllfa fel hon mae'r gêm yn gorffen yn gyfartal.

Du sydd i symud ym mhob un o'r 4 sefyllfa yn y diagram ar y dde, ac ym mhob un mae'r gêm yn gorffen yn gyfartal oherwydd Methmat.