Celf

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Celfyddydau)
Jump to navigation Jump to search
Sebastiano Ricci 002.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolpwnc gradd, cysyniad amheus, gan rai Edit this on Wikidata
Mathgweithgaredd, y celfyddydau, gweithgaredd hamdden, proses Edit this on Wikidata
Rhan odiwylliant Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y cerflun Dafydd gan Michelangelo (15011504)

Campweithiau gweledol sydd yn gynnyrch medr dynol yw celf, yn llawn celfyddyd. Fel rheol, defnyddir y talfyriad "celf", neu weithiau celfyddydau cain, i gyfeirio at y celfyddydau gweledol, hynny yw paentio, darlunio, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, a phensaernïaeth. Mae'r rhain yn gangen o'r ystod eang o weithgareddau a elwir y celfyddydau, sydd hefyd yn crybwyll y celfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a'r theatr, a llenyddiaeth, gan gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth.

Yn ogystal â'r amryw brosesau, technegau, a ffurfiau ar greu celf, mae celf yn bwnc testun disgyblaethau megis beirniadaeth celf ac hanes celfyddyd. Estheteg yw'r maes athronyddol sydd yn archwilio natur a diffiniad celf a chysyniadau tebyg, megis gallu creadigol a dehongli celfyddydweithiau.

Diffiniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid hawdd mae diffinio unrhyw un agwedd o gelf. Dichon gellir rhannu ymagweddau tuag at gelf yn ddau gategori: ei heffaith esthetig, a'i hystyr draethiadol (sef ei chyd-destun a bwriad yr artist). Ymhlith yr ymgeision cyffredinol i ddiffinio'r gair mae sôn am adlewyrchiad o ddawn, medr a gallu creadigol yr artist, cyd-destun yr unigol a'r diwylliant, a'r celfyddydwaith yn ffynhonnell harddwch, yn her ddeallusol, yn arwydd o newid a datblygiad, ac yn ganfyddiad dadansoddol.

Mae dehongliadau athronyddol o natur celf yn dyddio'n ôl i'r Henfyd. Creu delw neu ddynwarediad yw pwrpas celf yn ôl Platon, tra'r oedd Aristoteles yn canolbwyntio ar ffurf y gwaith wrth ei ystyried. Pwysleisiodd athronwyr yr Oleuedigaeth, megis Kant a Hegel, y gwrthrych, gan weld sgwrs rhwng yr artist a'r arsyllydd. Mynegiant a phroses y grefft yw celf i nifer o arlunwyr: y daith o olygfa neu ddychmyg i greadigaeth oedd arfer Kokoschka a Matisse. Gwelir celf o safbwynt esblygiadol gan anthropolegwyr modern sy'n ei hastudio fel gweithgaredd dynol, gan geisio llunio diffiniad diduedd ohonni.

Datblygodd ddiffiniadau llaw yn llaw â hanes gwyllt celf yn yr 20g. Heriodd haniaeth y syniadau traddodiadol am ffurf a chelfel ffiguraidd. Daeth gysyniadau'r gwaith a dymuniadau'r artist yn fwy pwysig na'r wedd orffenedig. Nododd y hanesydd a beirniad Leo Steinberg taw pryfociad neu heriad yw celf yn ogystal â chreadigaeth, gan ddiffinio celf drwy ein hymateb iddi. Yn y traddodiad yma ceir syniadaeth neu label celf Avant-garde.