Y celfyddydau
Gwedd
Ystod eang o weithgareddau diwylliannol sydd yn crybwyll mynegiant creadigol a chynhyrchiadau esthetaidd yw'r celfyddydau. Prif feysydd y celfyddydau yw'r celfyddydau gweledol, neu'n syml celf (gan gynnwys paentio, darlunio, cerfluniaeth, serameg, ffotograffiaeth, a phensaernïaeth), y celfyddydau perfformio (cerddoriaeth, dawns, a'r theatr), a'r celfyddydau llenyddol (gan gynnwys barddoniaeth a rhyddiaith).