Aristoteles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aristoteles Louvre.jpg

Athronydd Groeg yr Henfyd oedd Aristoteles (hefyd Aristotlys neu Aristotlus, Groeg: Ἀριστοτέλης). Fe'i ganwyd yn 384 CC yn Stagira, Chalcidici; ac fe fu farw ar 7 Mawrth, 322 CC yn Chalcis, Ewboia yng Ngwlad Groeg.

Roedd yn fyfyriwr i Platon ac yn athro i Alecsander Fawr. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys ffiseg, barddoniaeth, bioleg, rhesymeg, rhethreg, gwleidyddiaeth, llywodraeth, a moeseg. Ynghyd â Socrates a Platon, roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf athroniaeth hynafol; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon.

Bywyd[golygu]

Ganwyd Aristoteles yn Stagira, Chalcidice, yn 384 CC. Ei dad oedd y meddyg personol i Frenin Amyntas III o Macedon. Hyfforddwyd ac addysgwyd Aristoteles fel aelod o'r pendefigaeth. Pan oedd yn tua deunaw oed, fe aeth i Athen i barhau a'i addysg yn Academi Platon. Arhosodd Aristoteles yn yr academi am tua ugain mlynedd, tan gadawodd yn 347 CC, pan bu farw Platon.

Yna, teithiodd gyda Xenocrates i lys Hermias pen Atarneus yn Asia Minor. Tra yn Asia, teithiodd Aristoteles gyda Theophrastus i Ynys Lesbos, lle astudiodd lysieueg a milofyddiaeth yr ynys. Priododd Aristoteles berthynas i Hermias o'r enw Pythias. Fe anwyd merch iddo. Yn fuan ar ôl marwolaeth Hermias, gwahoddwyd Aristoteles gan Philip II, brenin Macedon, i fod yn diwtor i Alecsander Fawr.

Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn dysgu yr Alecsander Fawr ifanc, dychwelodd Aristoteles i Athen. Erbyn 335 CC roedd wedi sefydlu ei ysgol ei hun yno a alwodd yn Lyceum. Tra yn Athen, bu farw ei wraig, Pythias, a daeth Aristoteles yn agos at Herpyllis o Stageira. Ganwyd mab iddo o Herpyllis a alwodd ar ôl ei dad, Nicomachus.

Yr adeg honno, astudiodd Aristoteles bron pob pwnc posibl ar y pryd, a gwnaeth sawl cyfraniad sylweddol i'r rhan fwyaf ohonynt. Yng ngwyddoniaeth ffisegol astudiodd anatomeg, seryddiaeth, economeg, embryoleg, daearyddiaeth, daeareg, meteoroleg, ffiseg a milofyddiaeth.

Yn athroniaeth ysgrifennodd am estheteg, moeseg, llywodraeth, metaffiseg, gwleidyddiaeth, seicoleg, a diwinyddiaeth.

Hefyd astudiodd addysg, llenyddiaeth a barddoniaeth. At ei gilydd mae ei waith yn cynnwys ystod y meddwl Groegaidd yn y cyfnod hwnnw.

Gweithiau[golygu]