Breuddwyd Rhonabwy

Oddi ar Wicipedia
Breuddwyd Rhonabwy
Yr ail dudalen o'r stori yn y llawysgrif a elwir yn Llyfr Coch Hergest
Enghraifft o'r canlynolErzählung, llawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1375 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth epig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Brenin Arthur Edit this on Wikidata

Chwedl Gymraeg ganoloesol sy'n perthyn i Gylch Arthur yw Breuddwyd Rhonabwy (Cymraeg Canol: Breudwyt Ronabwy). Mae'n chwedl ymwybodol-lenyddol gan lenor dawnus gydag elfen gref o'r bwrlesg ynddi. Fe'i lleolir yn hen deyrnas Powys yn amser Madog ap Maredudd (m. 1160). Mae'r awdur yn anhysbys ond mae'n debygol ei fod yn frodor o Bowys.

Y testun a'i ddyddiad[golygu | golygu cod]

Owain yn codi ei ystondardd gyda'i frain yn ymladd marchogion Arthur (engrafiad yn "Mabinogion" Charlotte Guest (1877)

Cedwir yr unig gopi canoloesol o Breuddwyd Rhonabwy yn Llyfr Coch Hergest (c. 1375-1425). Nis ceir yn Llyfr Gwyn Rhydderch (c. 1300-1325), sy'n cynnwys fel arall copïau o'r testunau rhyddiaith Cymraeg Canol eraill a elwir yn 'Mabinogion', ond mewn rhan o'r llawysgrif honno ceir bwlch sy'n awgrymu y bu testun o Breuddwyd Rhonabwy i'w cael yno yn wreiddiol. Ar sail hyn ac iaith y testun mae ysgolheigion wedi cynnig dyddiadau ar gyfer ei gyfansoddi yn ymestyn o ganol y 12g hyd at ddiwedd y 13g: ni all fod yn gynharach oherwydd rhan amlwg Madog ap Maredudd yn y chwedl.

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae Iorwerth ap Maredudd, brawd Madog ap Maredudd, tywysog Powys, wedi mynd ar herw i Loegr. Mae Madog yn gwysio ddynion i fynd i'w nôl, yn cynnwys Rhonabwy. Daw Rhonabwy a'i ddau gydymaith un noson i dreulio'r nos mewn cwt o dŷ aflan anhygoel, ac yno wrth gysgu ar ddarn o groen budr mae Rhonabwy yn cael breuddwyd rhyfedd. Mae'n weld ei hun a'i gydymdeithion yn cerdded ar hyd maes a daw marchog dieithr atynt. Iddawg Cordd Prydain yw ei enw ffug-arwrol. Ymlaen yr ânt ynghyd nes cyrraedd afon Hafren. Yno ar ynys yn yr afon y mae'r brenin Arthur yn eistedd. Dechreuant ymddiddan a daw gŵr yno i atgoffa Arthur y dylai ymladd â'i elynion. Ymaith â'r cwmni eto ond yn lle mynd i ymladd mae Arthur yn aros o'r neilltu ac yn dechrau chwarae gwyddbwyll gyda Owain ab Urien, marchog iddo. Daw negesydd arall i hysbysu Owain fod milwyr Arthur am ryw reswm neu'i gilydd yn poenydio'r haid o frain sy'n ei ganlyn i bobman. Ond mae Arthur yn gwrthod eu hymatal ac yn canolbwyntio ar y chwarae. Y drydded waith y daw'r negesydd mae Owain yn gorchymyn codi ei ystondardd yng nghanol y frwydr ac yna mae'r brain yn dechrau ennill y dydd ar farchogion Arthur. Ond parhau i chwarae gwyddbwyll yn gwbl ddihîd a wna'r ddau arwr. Yna daw cenhadon oddi wrth Osla, gelyn Arthur o geisio cymod ac mae Arthur, ar ôl ymgynghori, yn caniatáu hynny. Yna mae Rhonabwy yn deffro ac yn cael ei fod wedi cysgu tridiau a theirnos.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Mae Breuddwyd Rhonabwy yn chwedl fwrlesg, ffug-arwrol. Mae ei chynllun yn glir a syml: prolog yn llys Madog, y breuddwyd ei hun, ac epilog byr i gloi. Mae hyn yn waith llenor ymwybodol sy'n hoff o ddisgrifiadau manwl a lliwgar. Un o brif nodweddion y chwedl yw'r dychan ac amharch bwriadol tuag at dywysogion, arwyr, beirdd ac arferion yr oes. Roedd yr awdur yn gyfarwydd â thraddodiadau a dulliau'r chwedlau ac fel petai'n eu troi ar eu pennau.

Dyma'r unig enghraifft o ddefnyddio ffrâm y breuddwyd mewn llenyddiaeth Cymraeg Canol (mae'r breuddwyd yn Breuddwyd Macsen yn ddigwyddiad yn y stori). Ond ceir cyfatbiaethau yn nhraddodiad llenyddol Iwerddon ac roedd y breuddwyd fel ffrâm yn gonfensiwn cyffredin mewn chwedlau crefyddol canoloesol. Elfen arall sy'n atgoffa dyn o'r chwedlau Gwyddeleg yw'r dychan eithafol wedi'i asio â disgrifiadau llachar ac iaith fwrlesg. Ni allai neb ddeall gair o ganu'r beirdd i Arthur, er enghraifft, ac mae rhai o'r disgrifiadau o liw ac arfau meirch a marchogion yn gampweithiau llenyddol ynddynt eu hunain.

Mae'r rhestr o'r arwyr yn llys Arthur yn debyg i'r un a geir yn Culhwch ac Olwen a cheir traddodiadau dilys am Owain ab Urien a'i frain yn ogystal.

Clawr Breudwyt Ronabwy; gol. Melville Richards; Cyhoeddwyd gyntaf yn 1948

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Y golygiad safonol o'r testun yw:

Ceir ymdriniaeth gan Dafydd Glyn Jones yn,

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]