Rhyddiaith Cymraeg Canol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Y mae rhyddiaith Cymraeg Canol yn ffurfio un o'r pennawdau pwysicaf a mwyaf diddorol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ceir amrywiaeth fawr o destunau, yn chwedlau mytholegol, rhamantau llenyddol, testunau hanes a hanes traddodiadol, bucheddau'r saint a chyfieithiadau ac addasiadau amrywiol.

Pedair Cainc y Mabinogi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Pedair Cainc y Mabinogi

Mae Pedair Cainc y Mabinogi yn enw ar gasgliad enwog o bedair chwedl fytholegol Gymraeg a roddwyd ar femrwn yn ystod yr Oesoedd Canol ond sy'n deillio o'r traddodiad llafar. Y golygiad safonol yw cyfrol Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi.

Y pedair chwedl yw: Pwyll, Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr, a Math fab Mathonwy. Cyfeirir atynt hefyd fel "Y Gainc Gyntaf", ac ati. Mae'r awdur yn anhysbys ond cytunir yn gyffredinol fod y Pedair Cainc yn un o emau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac yn un o uchafbwyntiau hanes llenyddiaeth Ewrop.

Y Chwedlau Brodorol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r chwedlau brodorol eraill yn cynnwys y chwedl Arthuraidd Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Macsen sy'n ymwneud â'r ymerodr Rhufeinig Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys sy'n dangos dylanwad gwaith Sieffre o Fynwy, a'r chwedl fwrlesg ddychanol Breuddwyd Rhonabwy. Yn perthyn i'r un dosbarth ond o darddiad diweddarach y mae Chwedl Taliesin, sy'n adrodd hanes y Taliesin chwedlonol, yr Areithiau Pros a sawl darn arall o ryddiaith o naws chwedlonol neu ddychanol (mae'r testunau cynharaf sydd wedi goroesi o'r testunau hyn yn dyddio i'r 16g).

Y Tair Rhamant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Tair Rhamant
Llinellau agoriadol testun Geraint ac Enid (Geraint fab Erbin) yn Llyfr Coch Hergest

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd Cymraeg Canol o'r Oesau Canol. Maent i'w cael yn rhannol neu yn gyfan yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir chwedlau sy'n cyfateb iddynt yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Mae iaith ac arddull y rhamantau hyn yn bur debyg i iaith ac arddull Pedair Cainc y Mabinogi. Y Tair Rhamant yw: Iarlles y Ffynnon (neu Owain), Peredur fab Efrawg a Geraint ac Enid (neu Geraint fab Erbin).

Testunau hanes a ffug-hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni chyfyngwyd rhyddiaith y cyfnod i chwedlau yn unig. Cafwyd sawl testun hanes a chronicl, e.e. Brut y Tywysogion. Lled gyfieithwyd neu addaswyd gwaith dylanwadol Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae i'r Gymraeg fel Brut y Brenhinedd neu Ystoria Brenhinedd y Brytaniaid (testun Brut Dingestow yw'r fersiwn mwyaf adnabyddus).

Testunau poblogaidd cyfandirol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfiethwyd neu addaswyd nifer o destunau Lladin a Ffrangeg poblogaidd i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol diweddar. Cafwyd addasiad Cymraeg Canol o ran o gylch chwedlau'r Greal dan y teitl Ystoryaeu Seint Greal. Cafwyd yn ogystal fersiynau o'r chwedlau Ffrangeg am y brenin Siarlymaen a'i farchogion, dan y teitl Ystorya de Carolo Magno, sef Cronicl Turpin, Cân Roland, Pererindod Siarlymaen a Rhamant Otfel; cerddi hir Ffrangeg o'r 12g oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn rhyddiaith Gymraeg. Mae cyfieithiadau eraill yn cynnwys Cydymdeithas Amlyn ac Amig, Chwedlau Odo, a Chwedlau Saith Doethion Rhufain. Llyfr taith cynnar yw Ffordd y Brawd Odrig ac mae Delw y Byd yn llyfr daearyddiaeth. O'r Saesneg y cafwyd Ystoria Bown o Hamtwn.

Testunau crefyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir tua 30 o fucheddau'r saint a gyfieithwyd o'r Lladin yn yr Oesoedd Canol hefyd, er enghraifft Buchedd Dewi sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Ceir un fuchedd lëyg yn ogystal, sef Hanes Gruffudd ap Cynan. Mae cyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin yn y cyfnod hwn yn cynnwys cyfieithiadau o ddarnau o'r Beibl, er enghraifft Llyfr Genesis, a llyfrau Beiblaidd apocryffaidd fel Mabinogi Iesu Grist. Ceir yn ogystal nifer o destunau mwy poblogaidd eu naws, fel Hystoria Gwlad Ieuan Fendigaid a thestunau dysgedig ar bynciau Beiblaidd fel yr Elucidarium yn Llyfr yr Ancr.

Y Cyfreithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn olaf rhaid crybwyll y testunau Cymraeg niferus o Gyfraith Hywel Dda - rhai dwsinau ohonynt - sy'n ffynhonnell hanesyddol a chymdeithasol bwysig ac yn enghraifft ragorol o goethder y Gymraeg fel cyfrwng lenyddol yn ogystal.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer fawr o lyfrau sy'n ymwneud â rhyddiaith Cymraeg Canol a'i chefndir. Rhoddir isod detholiad o lyfrau sy'n cynnig arolwg cyffredinol. Ceir llyfryddiaethau mwy penodol yn yr erthyglau unigol.

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, Llandysul, 1974).
  • Rachel Bromwich et al. (gol.), The Arthur of the Welsh: the Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Caerdydd, 1991)
  • D. Simon Evans, Medieval Religious Literature (Caerdydd, 1986). Arolwg da o'r testunau crefyddol.
  • Kenneth H. Jackson, The International popular tale and Early Welsh tradition (Caerdydd, 1961)
  • Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1932; arg. newydd 1986). Pennod III.
  • Nesta Lloyd a Morfudd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986)
  • R. S. Loomis, Wales and the Arthurian Legend (Caerdydd, 1956)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Pennod IV.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]