Buchedd Dewi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delweddau allanol
Tudalen o lawysgrif Llanstephan 4

Testun crefyddol Cymraeg Canol sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant yw Buchedd Dewi. Mae'n gyfieithiad o'r testun Lladin Vita Davidis, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1094 gan Rygyfarch ap Sulien, ac enghraifft o fucheddau'r saint neu hagiograffeg yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r ffynhonnell draddodiadol am fanylion bywyd Dewi, ond gan i waith Rhygyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw'r hanes. Ceir y testun Cymraeg Canol mewn sawl llawysgrif, gan gynnwys llsgr. Llanstephan 4,[1] llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth),[2] a Llyfr Ancr Llanddewibrefi.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Llsgr. Llanstephan 4, Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  2. Llsgr. Llanstephan 27 (Llyfr Coch Talgarth), Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  3. Llsgr. Coleg yr Iesu 119 (Llyfr Ancr Llanddewi Brefi), Rhyddiaith Gymraeg 1300–1425 (Prifysgol Caerdydd). Adalwyd ar 16 Mai 2017.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]