Dewi Sant

Oddi ar Wicipedia
Dewi Sant
Ganwyd512 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farw589 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Mawrth Edit this on Wikidata
TadSant ap Ceredig Edit this on Wikidata
MamNon Edit this on Wikidata

Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, Non oedd ei fam, a dreisiwyd gan Sant - mab pennaeth Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn flynyddol ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Baner Dewi Sant

Yn ôl un traddodiad, cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Gapel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sant (neu Sandde), brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.[angen ffynhonnell] Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.

Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.

Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r 9g.

Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn Llanddewi Brefi gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl Rhigyfarch a llawysgrifau Gwyddelig o'r 9g, bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589[1] - a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Dewi Sant.
  2. Gwyddoniadur Cymru tud 288;] Gwasg Prifysgol Cymru; Prif Olygydd: John Davies.