Siôr (sant)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Siôr a'r Ddraig gan Peter Paul Rubens (Museo del Prado, Madrid). Mae'n bosib y comisiynwyd y llun hwn ar gyfer eglwys yn Genova, un o'r dinasoedd lle mae Siôr yn nawddsant.[1]
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Sant Cristnogol yw Siôr (Groeg (iaith): Γεώργιος, Georgios; Lladin: Georgius; hefyd weithiau Siors neu Siorys yn Gymraeg).[2] Dethlir ei ŵyl, Dygwyl Siôr,[3] ar 23 Ebrill (18 Ebrill yn yr Eglwys Goptaidd).[4] Ef yw nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, Lloegr, Portiwgal a nifer o lefydd eraill.

Ni wyddwn llawer am fywyd y ffigwr hanesyddol Siôr, ond er gwaethaf rhai amheuon credir bellach ei fod wedi bodoli. Daw ei enw o'r gair Groeg ar gyfer ffermwr neu werinwr. Roedd yn ferthyr Cristnogol yn y 3ydd ganrif, ac mae'n debyg iddo farw yn yr ardal o gwmpas Diospolis neu Lydda ym Mhalesteina (bellach Lod, Israel), lle mae'r tystiolaeth cynharaf am ei gwlt. Mae'n bosib mai milwr ym myddin Rhufain oedd Siôr, a daeth i fod yn sant milwrol poblogaidd yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn y traddodiad hwnnw anrhydeddir ef fel megalomartyros ("merthyr mawr").[4]

Darluniwyd Siôr fel marchog ar geffyl gwyn yn gorchfygu draig, symbol o ddrygioni. Datblygodd hyn i fod yn chwedl am Siôr yn achub tywysoges oddi wrth y ddraig, a ddaeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd y gorllewin gyda chyhoeddi'r Legenda Aurea, casgliad o fucheddau'r seintiau gan Jacobus de Voragine, yn y 13g. Mae'n bosib bod y chwedl am Perseus yn achub Andromeda o grafangau bwystil, mewn lleoliad nid ymhell o Lydda, wedi dylanwadu hefyd ar chwedl Siôr a'r Ddraig.[4]

Cynyddodd poblogrwydd cwlt Siôr yng ngorllewin Ewrop yng nghyfnod y Croesgadau. Mabwysiadodd brenhinoedd Lloegr ef yn y 13eg ganrif, fel y gwnaeth nifer o bŵerau eraill Ewrop megis Aragón, Fenis, Genova a Phortiwgal, oherwydd ei ddelwedd fel y milwr Cristnogol delfrydol.[4] Sefydlwyd Siôr fel nawddsant teyrnas Lloegr ym 1348, pan sefydlwyd Urdd y Gardas Aur gan Edward III; Siôr oedd nawddsant yr urdd sifalrig hwn.[5] Mae baner Lloegr yn seiliedig ar faner y sant.

Mae tri murlun canoloesol o Siôr wedi goroesi mewn eglwysi yng Nghymru. Mae'r mwyaf o'r rhain, ac un o'r mwyaf yng ngwledydd Prydain, yn Eglwys Cadog Sant, Llancarfan, Bro Morgannwg.[6]

Eglwysi cysegredig i Siôr yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jaffé, David, et al. (2005). Rubens: A Master in the Making. Llundain: Cwmni'r Oriel Genedlaethol, tud. 83
  2. Gweler Geiriadur Prifysgol Cymru, "gŵyl"
  3. Am y ffurf Gymraeg hon, gweler Geiriadur yr Academi.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Farmer, David Hugh (2004). The Oxford Dictionary of Saints. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
  5. (Saesneg) Summerson, Henry. "George". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/60304.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  6. (Saesneg) Hilts, Carly (16 Rhagfyr 2011). News: Dragons, Death and Deadly Sins. Current Archaeology. Adalwyd ar 19 Mawrth 2015.
  7. (Saesneg) Church of St George, Treorchy. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2015.
  8. (Saesneg) Church of St George, Rhos-on-Sea. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
  9. (Saesneg) Church of St George, Abergele. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
  10. (Saesneg) Church of St George, Reynoldston. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
  11. (Saesneg) Church of St George, St Georges-super-Ely. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
  12. (Saesneg) St George's Church, Tredegar. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.