Non

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Santes Non: ffenestr wydr lliw yng Nghapel Non, Sir Benfro.

Santes a anwyd yn y 5g oedd Non (weithiau 'Nonn' a 'Nonna') wraig a sefydlodd nifer o lannau, a teithiodd i Lydaw, ac oedd yn fam Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Teulu Non[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel holl seintiau Oes y Saint roedd hi'n ferch uchelwrol. Anhun (Saesneg: Anna), ferch Gwrthefyr Fendigaid oedd ei mam a'i thad oedd Cynyr o Gaer Gawch, pennaeth tiroedd ym Mhenfro (a elwid yn Pebidiog yn diweddarach) gan gynnwys Glyn Rhosyn ble mae Tyddewi heddiw. Roedd Non yn chwaer i Ina a Gwen o Gernyw ac yn fam i Dewi Sant, nawddsant Cymru a dwy ferch: Môr a Magna.[1] .

Yn ôl Rhigyfarch, awdur y testun Cymraeg Canol, Buchedd Dewi, roedd hi'n lleian a dreisiwyd gan y tywysog Sant (neu Sanddef) fab y brenin Ceredig cyn rhoi genedigaeth i Ddewi.[2] ,Gellid cwestiwnu os oedd hi'n lleian. Yn Oes y Saint yr oedd Cymunedau Cristnogol yn cynnwys dynion a menywod ac yr oedd priodi yn cyffredin. Tuedd awduron yr Oesoedd Canol oedd darlunio pob santes naill fel gwyryf (oedd wedi addo parhau fel gwyryf) neu mam i fab enwog.[3] Dethlir ei dydd gŵyl ar 2, 3 neu'r 5ed o Fawrth ac ar yr ail Sul wedi Hirddydd Haf (Alban Hefin). Bu farw yn Llydaw.

Cynhedlu ac Esgor ar Ddewi[golygu | golygu cod y dudalen]

Addysgwyd Non gan Meugan a sefydlodd glas yn y Tŷ Gwyn ger Porth Mawr ar diroedd ei thad. Tua'r flwyddyn 500 bu gŵr o'r enw 'Sant ap Ceredig' (neu Sanddef ap Ceredig) yn hela yn yr ardal pan ddaeth ar draws Non, a threisiodd hi. Tyfodd chwedl o gwmpas y digwyddiad: dywedir fod dwy garreg wedi ymddangos: y naill wrth ei phen a'r llall wrth ei thraed. Roedd hyn yn ymgais gan y storiwr i amddiffyn ei diweirdeb. Yn y misoedd dilynol bu Sant yn chwilio am Non gyda'r bwriad o'i lladd. Cuddiodd Non mewn bwthyn dair milltir o Lyn Rhosyn, ger y bae a elwir heddiw yn Fae y Santes Non. Pan ddaeth yr amser iddi esgor, bu Sant yn agos iawn at darganfod ei chuddfan ond rhwystrwyd ef gan storm fawr. Dwedir fod heulwen wedi torri drwy'r cymylau ynghanol y storm, gan oleuo safle'r bwthyn wrth iddi esgor. Yng nghanol ei phoenau gwasgodd Non ei llaw ar garreg ac esgorodd ar fab, Dewi[2] Dywedir fod ôl ei llaw i'w gweld ar y garreg hyd heddiw. Adeiladwyd capel ar safle'r bwthyn yn ddiweddarach a defnyddiwyd y garreg gyda'r ôl ei llaw fel allor. Heddiw, mae olion adeilad sy'n dyddio o'r 8g ar y safle. Ni bu sôn pellach am Sant, ond mae'n debyg fod ei deulu wedi dangos diddordeb yn sefyllfa Non a'i phlentyn. Aeth Non i fyw ar arfordir Ceredigion, gan sefydlu llan ar safle pentref Llan-non, Ceredigion.

Teithiau Non[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Non deithio pan aeth Dewi i'r Tŷ Gwyn i dderbyn ei addysg. Sefydlodd hi nifer o lannau eraill: un yn Sir Gaerfyrddin, un ym Morgannwg ac un ym Maesyfed. Cafodd ddwy ferch: Môr a Magna. Symudodd i Gernyw a sefydlodd llan yn Alternon (allor-Non) Defnydddiwyd ychen i dynnu ei allor symudol i'r safle. Aeth wedyn i Lydaw lle bu farw. Ceir beddrod Non yn Nirinonn, Penn-ar-Bed (Finisterre), Llydaw. Dwedir mai tardiadd enw'r plwyf yw naill ai cywasgiad o'r enw Dewi a Non neu'r gair am goed derw sef 'deri Non'[4]. Am ganrifoedd perfformid y ddrama firagl Lydaweg Buhez Santez Nonn (Buchedd Santes Non) yno.

Traddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cuddir manylion hanes Non yn aml dan y pennawd 'Dewi Sant', ond nid yw hyn yn gwneud cyfiawnder â hi.[5] Yn yr Oesoedd Canol datblygodd y camsyniad fod Non yn lleian (yn yr ystyr Catholig) oherwydd tebygrwydd ei henw â 'nonna' y gair Lladin am lleian, gan anwybyddu enwau o wledydd Celtaidd yn llwyr. Ychwanegodd awduron Oes Fictoria y camsyniad fod yna ddau sant a elwid Non, un yn fam i Dewi a'r llall yn ddyn oedd yn teithio a chenhadu [6]. Ond mae enwau llannau, eglwysi a ffynhonnau yn dystiolaeth iddi fod yn ferch weithgar, yn genhades ac yn deithiwr diflino.[7]

Llefydd a Cysylltir â Non[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Capel Non ar lan Bae Sain Ffraid ym Mhenfro gyda'r bwthyn ble esgorodd ar Ddewi. Ffrydiodd ffynnon o'r tir ger y man ble bu iddi esgor. Erys yn ffynnon sanctaidd hyd heddiw.

Daeth y werin i gredu fod nifer o'i ffynhonnau yn gallu iachau. Credwyd fod dŵr ei ffynnon yn medru iacháu gwynegon, afiechydon y llygaid a chur pen. Cofnodwyd fod trigolion lleol yn parhau â'r arfer o daflu pinnau bach, darnau o bres a cherrig mân i'r ffynnon, fel offrwm, hyd at dechrau'r 19g. Ceir nifer o ffynhonnau a elwir Ffynnon Non ar draws de Cymru, Cernyw a Llydaw.[8] Mae eglwysi Pelynt yng Nghernew a Bradstone yn Nyfnaint hefyd wedi'u cysegru iddi. Yn 1934 adeiladwyd capel Catholig wedi cysegru i Non ger y fan lle esgorodd ar Ddewi. Adeiladwyd y capel mewn dull tebyg i'r capeli cerrig cynharaf ac yn cynnwys cerrig a ddaeth yn wreiddiol o eglwysi ond a gasglwyd o adfeilion bythynnod a muriau yn yr ardal.

Mytholeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o draddodiadau Celtaidd paganaidd wedi eu hychwanegu at hanes Non gyda threiglad amser. Mae hi wedi uniaeithu gyda'r dduwies Geltaidd Dana ym meddwl a credoau'r werin. Priodolir rhinweddau Annonna, duwies Rhufeinig y cynhaeaf iddi hi.. Wrth i Grisnogaeth ledu dros Ewrop llenwid safle'r dduwiesau hyn gan Ann, mamgu Iesu, ond glynodd y Celtiaid at eu santes brodorol.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun yr erthygl "Santesau Celtaidd 388-680"

Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Non[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Bae Santes Non
St Non's Bay (8497).jpg
51°52′16″N 5°15′58″W / 51.871°N 5.266°W / 51.871; -5.266 Sir Benfro Q24666070
2 Capel y Santes Non
Chapel of our lady and St Non..JPG
51°52′20″N 5°16′08″W / 51.8722°N 5.2688°W / 51.8722; -5.2688 Sir Benfro Q5073091
3 Eglwys Santes Non, Llanycefn
St Non's Church, Llanycefn - geograph.org.uk - 603939.jpg
51°52′45″N 4°46′03″W / 51.879272°N 4.767612°W / 51.879272; -4.767612 Sir Benfro Q28852330
4 Eglwys y Santes Non 51°45′21″N 4°07′01″W / 51.7559°N 4.11705°W / 51.7559; -4.11705 Sir Benfro Q17743094
5 Eglwys y Santes Nonna, Altarnun
Altarnun, Cornwall, St Nona's Church - geograph.org.uk - 223517.jpg
50°36′17″N 4°30′46″W / 50.604608°N 4.512809°W / 50.604608; -4.512809 Altarnun Q7594983
6 Ffynnon y Santes Non 51°52′21″N 5°16′06″W / 51.8724°N 5.26841°W / 51.8724; -5.26841 Sir Benfro Q17743367
7 Llan-non
The Greyhound Inn, Llannon - geograph.org.uk - 1175551.jpg
51°45′18″N 4°07′03″W / 51.7551°N 4.1175°W / 51.7551; -4.1175 Sir Gaerfyrddin Q6661651
8 Llan-non
Llanon strydfawr.jpg
52°16′57″N 4°10′44″W / 52.2825°N 4.17902°W / 52.2825; -4.17902 Ceredigion Q6661685
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Spencer, R. 1991, The Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  2. 2.0 2.1 D. Simon Evans (gol.), Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959).
  3. Warner, M. 1976, Alone of all her Sex, Picador
  4. L'origine du nom de notre commune "Dirinon"http://www.dirinon.fr/l-origine-du-nom-de-la-commune-de-dirinon.htm
  5. Tregarneth, A. 1947, Sylfaenwyr y Ffydd yng Nghymru, Gwasg y Brython
  6. Doble, G. H.1897, gol.Evans 1984 Gwasg Prifysgol Cymru
  7. Chadwick. N 1961, The Celtic Church, Oxford University Press
  8. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publishing, 2000).