Gwydr lliw
Gwedd
Gall gwydr lliw gyfeirio at unrhyw wydr sydd wedi ei liwio, ond fel rheol mae'n cyfeirio ar ffenestri lle'r defnyddir darnau o wydr o wahanol liwiau i greu llun neu batrwm. Mae gwydr lliw o'r math hwn yn arbennig o nodweddiadol o eglwysi.
Ceir ychydig o enghreifftiau mewn eglwysi yn dyddio o'r 11g a'r 12g. Mae ffenestri lliw yn arbennig o nodweddiadol o adeiladau eglwysig yn yr arddull Gothig o'r 13g ymlaen.
Ymhlith yr esiamplau enwocaf, mae'r gwydr lliw yn eglwys y Sainte Chapelle ym Mharis, yn Eglwys Gadeiriol Chartres ac yn Eglwys Gadeiriol Cwlen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ffenestr Cymru, Birmingham, Alabama, ffenestr wydr lliw fu'n rodd gan pobl Cymru fel arwydd o gydymdeimlad ag Eglwys Bedyddwyr 16th Street, Birmingham, Alabama wedi ymosodiad terfysgaidd ar yr eglwys gan y Ku Klux Klan.