Pensaernïaeth Gothig

Oddi ar Wicipedia
Eglwys gadeiriol Notre-Dame de Paris

Arddull canoloesol o bensaernïaeth yw Gothig. Datblygodd yn Ffrainc yn y 12g o'r arddull Romanesg (a elwir yn Normanaidd yn Ynysoedd Prydain) ac yna lledodd drwy Ewrop gyfan. Tra'r oedd pensaernïaeth Romanesg yn seiliedig ar ddulliau adeiladu'r Rhufeiniaid, roedd Gothig yn seiliedig ar dechnegau newydd, yn bennaf y bwa pwyntiog. Drwy ddefnyddio bwâu pwyntiog roedd yn bosib adeiladu ffenestri llawer mwy nag o'r blaen ac mae ffenestri lliw trawiadol yn nodweddiadol o eglwysi'r cyfnod.

Arddulliau Gothig lleol[golygu | golygu cod]

Roedd cymeriad gwahanol iawn gan arddulliau Gothig lleol gwahanol wledydd – er enghraifft, yn yr Almaen a'r Iseldiroedd roedd briciau yn ddeunydd poblogaidd, tra bod gwenithfaen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cadeirlannau Ffrainc a Lloegr.

Yr Adfywiad Gothig[golygu | golygu cod]

O'r Dadeni Dysg ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan fathwyd y term "Gothig" tua'r un adeg, roedd yn derm dirmygus yn cyfeirio at y Gothiaid) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y 19g, pan ddatblygodd delwedd ramantaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym Mhrydain. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y Chwyldro Diwydiannol roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a Christnogaeth yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes. Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a phrifysgolion yn yr 20g.

Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.