Notre-Dame de Paris
![]() | |
Math |
eglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
y Fendigaid Forwyn ![]() |
| |
Sefydlwyd | |
Nawddsant |
y Forwyn Fair ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Notre-Dame, 4th arrondissement of Paris ![]() |
Gwlad |
Ffrainc ![]() |
Arwynebedd |
5,500 m² ![]() |
Cyfesurynnau |
48.853°N 2.3498°E ![]() |
Cod post |
75004 ![]() |
Hyd |
127 metr ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
pensaernïaeth Gothig Ffrengig, Early Gothic, Rayonnant, Q72553961 ![]() |
Perchnogaeth |
Ffrainc ![]() |
Statws treftadaeth |
monument historique classé ![]() |
Sefydlwydwyd gan |
Maurice de Sully ![]() |
Cysegrwyd i |
y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
dimension stone ![]() |
Esgobaeth |
Archesgobaeth Paris ![]() |
Eglwys gadeiriol ym Mharis yw Notre-Dame de Paris (Ffrangeg: Ein Harglwyddes o Baris). Saif ar ynys o'r enw Île de la Cité yn Afon Seine. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Cychwynnwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod Chwyldro Ffrainc pan ddinistriwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel Victor Hugo Notre-Dame de Paris yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynnodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan Eugène Viollet-le-Duc yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.[1]
Tân 2019[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar brynhawn 15 Ebrill 2019, cychwynnodd tân yn nho'r adeilad a ledodd yn gyflym gan achosi difrod sylweddol. Dinistriwyd y to pren a dymchwelodd y prif feindwr. Gwnaed difrod sylweddol i'r adeilad ond achubwyd y prif strwythur a'r tri ffenest rhosyn enwog wedi eu gwneud o wydr lliw yn dyddio nôl i 1225. Achubwyd nifer fawr o weithiau celf a chreiriau o du fewn y gadeirlan.
Dywedodd Arlywydd Macron y byddai Notre Dame yn cael ei ailadeiladu.[2] O fewn diwrnod, codwyd o leiaf €600m tuag at adfer y gadeirlan.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "History of the Construction of Notre Dame de Paris" (yn Ffrangeg).
- ↑ Notre Dame Cathedral: spire collapses in huge fire – live news , guardian.co.uk, 15 Ebrill 2019.
- ↑ Notre Dame: €600m raised to help restore fire-damaged Paris cathedral , Sky News, 16 Ebrill 2019.