Llan-non, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd: Llannon
Llan-non
The Greyhound Inn, Llannon - geograph.org.uk - 1175551.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Non Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.7551°N 4.1175°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000537 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Lee Waters (Llafur)
AS/au Nia Griffith (Llafur)

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-non. Saif ar y briffordd A476 rhwng Llanelli a'r Tymbl.

Yn weinyddol, mae Cymuned Llannon hefyd yn cynnwys pentrefi Cross Hands a'r Tymbl. Fe'i hystyrir yn bentref amaethyddol mewn ardal lofaol. Ceir un eglwys sef yr Eglwys Santes Non ac un capel y Bedyddwyr, sef Hermon. Mae dwy dafarn yn y pentref, Tafarn y Llew Coch a Thafarn y Milgi. Gwasanaethir y pentref gan un ysgol gynradd categori A, sy'n bwydo Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa.

Cysylltir y pentref â Helyntion Beca. Ar gyrion y pentref mae fferm "Gelliwernen" lle y digwyddodd un o derfysgoedd Beca. Erys tollborth yn y pentref ac uwchlaw Llannnon, ar fynydd Sylen y cynhaliwyd un o gyfarfodydd enwocaf Merched Beca. Dyma ardal Jac Tŷ Isha, un o arweinwyr enwocaf y terfysgoedd. Seiliwyd sioe gerdd ar ei fywyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Lee Waters (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nia Griffith (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato