Rhydcymerau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhydcymerau
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.0302°N 4.0748°W Edit this on Wikidata

Lleolir pentref bach Rhydcymerau 8.5 cilometr i'r de-ddwyrain o dref Lanybydder yr ochr draw i Fynydd Llanybydder, yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru. Mae'n rhan o gymuned Llanybydder.

Mae gan Rhydcymerau gapel, tŷ tafarn ac ysgol gynradd.

Bro D. J. Williams[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltir Rhydcymerau â'r llenor a'r cenedlaetholwr D. J. Williams; un o'r tri a weithredodd yn erbyn ysgol fomio Penyberth ym 1936. Mae dwy gyfrol ei hunangofiant, sef Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959) yn cynnig portread byw o fywyd yr ardal ar droad yr ugeinfed ganrif.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]