Bynea

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bynea
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6667°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Lee Waters (Llafur)
AS/au Nia Griffith (Llafur)

Pentref yn agos i'r afon Llwchwr yw Bynea yn Sir Gaerfyrddin. Ardal amaethyddol oedd yma i ddechrau ac yna ar droad y ganrif diwethaf roedd yn le prysur diwydiannol gyda phwll glo ac wedi hynny gwaith dur. Erbyn heddiw mae'r diwydiannau trwm yma wedi hen ddiflannu. Mae'r pentref yn rhedeg mewn i bentref Llwynhendy a rhwng y ddau le mae yna 4 capel ac eglwys, a nifer o dafarndai. Mae Gorsaf reilffordd Bynea ar llinell Rheilffordd Calon Cymru.

Mae Terry Davies y chwaraewr rygbi yn enedigol o'r ardal ac yn dal i fyw nepell i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Lee Waters (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nia Griffith (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  • A History of Bynea and Llwynhendy Cymdeithas Hanes Bynea a Llwynhendy (2000)


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato