Llanymddyfri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanymddyfri
Llandovery.jpg
Math Cymuned, Tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,870 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Pluguen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.995°N 3.795°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000514 Edit this on Wikidata
Cod OS SN763346 Edit this on Wikidata
Cod post SA20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Adam Price (Plaid Cymru)
AS/au Jonathan Edwards (Plaid Cymru)

Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Saesneg Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod. Enwyd epoc, sy'n rhaniad o amser daearegol, ar ôl y dref: Epoc Llanymddyfri.

Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.

Cynrychiolir Llanymddyfri yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd Castell Llanymddyfri gan y Normaniaid yn 1110, ond cipiwyd ef gan y Cymry cron yn syth. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau yn y ganrif a hanner nesaf. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, defnyddiwyd y castell gan Harri IV, brenin Lloegr, a ddienyddiodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn y dref. Ymosododd byddin Glyn Dŵr ar y castell yn 1403, ac mae wedi bod yn adfail ers hynny.

Roedd Rhys Prichard ("Yr Hen Ficer" neu "Y Ficer Prichard") yn enedigol o Lanymddyfri ac yn ficer yma. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan borthmon lleol yn Llanymddyfri yn 1799.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanymddyfri (pob oed) (2,065)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanymddyfri) (856)
  
42.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanymddyfri) (1439)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanymddyfri) (397)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llandingad, y plwyf eglwysig sy'n cynnwys Llanymddyfri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013