Ffordd yr A483
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o A483)
| Enghraifft o: | ffordd dosbarth A |
|---|---|
![]() | |
| Rhanbarth | Swydd Gaer, Cymru |
| Hyd | 149 milltir |
| Dynodwyr | |
Mae'r A483 yn un o thair ffordd sy'n mynd trwy Gymru yn ei chyfanrwydd, gan gysylltu'r de a'r gogledd; yr A470 a'r A487 yw'r lleill. Rhed trwy siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Powys a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gan ei disgrifio o'r de i'r gogledd, mae'n dechrau yn Abertawe ger cyfford 42 Traffordd yr M4 ac yna'n mynd trwy Rydaman, Llandeilo a Llanymddyfri (fel yr A40), Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng, Croesoswallt a Wrecsam cyn cyrraedd ei therfyn gogleddol ger Traffordd yr M53 yng Nghaer.
