Neidio i'r cynnwys

Llandrindod

Oddi ar Wicipedia
Llandrindod
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,309, 5,598, 5,024 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBad Rappenau, Contrexéville Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2435°N 3.3855°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000293 Edit this on Wikidata
Cod OSSO055615 Edit this on Wikidata
Cod postLD1 Edit this on Wikidata
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llandrindod[1] (Saesneg: Llandrindod Wells). Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol" i brofi rhin y dŵr).

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.

Siop yn Llandrindod

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw "Llam Y Cariadon" (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.

Llandrindod gyda'r nos


Yr Iaith Gymraeg a Thafodiaith Sir Faesyfed

[golygu | golygu cod]

Cymraeg oedd prif iaith y dref tan diwedd y 19eg canrif, pan ddechreuoedd y trigolion ddefnyddio mwy o Saesneg. Wrth ymweld â'r dre yn Awst 1760, ysgrifennodd Lewis Morris o Ynys Môn "The country people talk English here as well as Welsh...though Welsh is more natural to them, and is as pure and correct as in north Wales, some local words excepted."

Cofnododd Morris ychydig o enwau lleol ar bysgod oedd yn cynnwys 'camog' am eog, 'darsen' am dace a 'penhwyad' am pike. Nododd hefyd y gair 'tocins' am arian cochion (darnau arian copr / ceiniogau). Erbyn 1827, roedd pryderon am ddyfodol yr iaith yn yr ardal. Dim ond Saesneg roedd pobl ifanc yn ei siarad, yn ôl gohebydd Y Gwyliedydd, er iddo ganmol tafodiaith Gymraeg Sir Faesyfed.[2]

Yn ôl cyfrifiad 2021, 10.8% o boblogaeth y dref oedd yn siarad Cymraeg.[3]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandrindod (pob oed) (5,309)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrindod) (640)
  
12.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrindod) (2387)
  
45%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrindod) (1,215)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Payne, Ffransis (1966). Crwydro Sir Faesyfed Rhan 1. Llyfrau'r Dryw. t. 133-134.
  3. "DataMapWales". Welsh Government.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.