Llanfechain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfechain
Math Tref bost, Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.7744°N 3.2019°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000300 Edit this on Wikidata

Pentref a phlwyf yng ngogledd Powys yw Llanfechain. Fe'i lleolir ar y lôn B4393 9 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Groesoswallt, dros y ffin yn Swydd Amwythig.

Mae'n gorwedd ar lan Afon Cain tua hanner ffordd rhwng Llanfyllin a Llansantffraid-ym-Mechain, y ddau bentref cyfagos. Fel yn achos Llansantffraid, fe'i enwir ar ôl hen gantref Mechain.

Mae eglwys Llanfechain wedi'i chysegru i Sant Garmon.

Ganwyd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) yn y plwyf ar 15 Gorffennaf, 1761.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfechain (pob oed) (465)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfechain) (90)
  
19.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfechain) (150)
  
32.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfechain) (99)
  
43.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.