Neidio i'r cynnwys

Walter Davies (Gwallter Mechain)

Oddi ar Wicipedia
Walter Davies
FfugenwGwallter Mechain Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Gorffennaf 1761 Edit this on Wikidata
Llanfechain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1849 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantWalter Cecil Davies, Jane Davies Edit this on Wikidata

Bardd, beirniad eisteddfodol, golygydd, hynafiaethydd a chlerigwr Anglicanaidd o Gymru oedd Walter Davies (15 Gorffennaf 17615 Rhagfyr 1849), a oedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd wrth ei enw barddol Gwallter Mechain.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Walter Davies ym mhlwyf Llanfechain yn yr hen Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) - yn agos i Domen y Castell - ar 15 Gorffennaf, 1761. Ar ochr ei dad roedd yn perthyn i William Davies, a theuluoedd Nant-yr-erw-haidd yn Edeirnion a Chyffiniaid Trebrys. Gadawodd ysgol y pentre'n ddeuddeg oed a dysgodd grefft cowper, a dywedir iddo ddod yn gryn feistr wneud 'picyn'.[1]

Aeth i Brifysgol Rhydychen yn nechrau 1792 a graddiodd gyda BA yn hydref 1795. Ar ôl cyfnod byr yn is-geidwad Amgueddfa'r Ashmolean, cafodd ei urddo'n ddiacon yn Llanelwy (1795) ac yna'n offeiriad yn 1796. Yn 1799 priododd Mary, gweddw Rhys Pryce o Feifod; cawsant bedwar o blant. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt lle enillodd ei radd MA yn 1803.

Cafodd bersoniaeth Llanwyddelan yn 1803 ac yna aeth yn ficer ym mhwlyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ar 7 Gorffennaf 1807, lle arhosodd am 30 mlynedd. Yn ogystal â chyflawni'r rhan fwyaf o'i waith llenyddol tra yno, gwnaeth ddau arolwg pwysig o amaethyddiaeth yng Nghymru ar ran y llywodraeth (cyhoeddwyd 1810, 1814). Cynorthwyodd Samuel Lewis i baratoi ei Topographical Dictionary of Wales enwog (cyhoeddwyd 1833). Symudodd i blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849 a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf.

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

Fel golygydd a hynafiaethydd gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd llenyddol hanner cyntaf y 19g. Roedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd (1822–1837) a chyfrannodd nifer o ysgrifau Saesneg ar hanes lleol Powys a rhannau eraill o Gymru i gylchgronau Cymry Llundain. Golygodd waith rai o' feistri'r gorffennol, e.e. gwaith Huw Morus (Eos Ceiriog) (1823) a golygiad o gerddi Lewys Glyn Cothi (1837, gyda John Jones (Tegid)).

Yn ei ieuenctid ymddiddorai Gwallter Mechain yng ngwaith y beirdd gwlad traddodiadol yn ei fro a chyfansoddodd sawl carol plygain yn y dull traddodiadol. Cyfansoddodd nifer o gerddi a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ar ôl ei farwolaeth. Roedd ganddo feistrolaeth dda ar ffurfiau barddonol ond braidd yn sych y mae llawer o'i gerddi mawr i ddarllenwyr heddiw, ond mae rhai o'i englynion yn ffraeth. Enillodd sawl tlws eisteddfodol, yn cynnwys y rhai a enillodd yn eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn Y Bala (Eisteddfod Y Bala 1789), Corwen (Eisteddfod Corwen 1789) a Llanelwy (Eisteddfod Llanelwy 1790), ond roedd nifer o'i gyd-feirdd yn amau twyll oherwydd gohebiaeth gyfrinachol rhwng Gwallter ac Owain Myfyr (profwyd hyn yn wir yn ddiweddarach).

Mae un o'i gerddi, "Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816", o werth hanesyddol fel disgrifiad o effaith haf gwlyb 1816, a achoswyd gan ffrwydrad Mynydd Tambora yn Indonesia yn 1815, ar amaethyddiaeth Cymru. Fodd bynnag, fel bardd ni brisir ei waith lawer erbyn heddiw.[1] Hwyrach mai'r unig gerdd wirioneddol enwog o'i eiddo yw ei englyn i'r Nos:

Y nos dywell yn distewi, – caddug
Yn cuddio Eryri,
Yr haul yng ngwely’r heli,
A’r lloer yn ariannu’r lli.

Cynhwyswyd yr englyn hwn ym Mlodeugerdd Rhydychen a Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Bedwyr Lewis Jones - yr unig gerdd o eiddo Gwallter Mechain yn y naill gyfrol neu'r llall - ac mewn llawer o gasgliadau o englynion.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
Rhagymadrodd D. Silvan Evans i gyfrol gyntaf Gwaith Gwallter Mechain.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwaith Gwallter Mechain

[golygu | golygu cod]
  • D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, 2 gyfrol (Caerfyrddin, 1868)

Cefndir

[golygu | golygu cod]