Carol plygain

Oddi ar Wicipedia
Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn Llanfair Dyffryn Clwyd; Rhagyr 2015

Carolau a genir yng ngwasanaeth y plygain, yn yr eglwys rhwng tri a chwech o'r gloch y bore, fel arfer, ar fore dydd Nadolig, yw carolau plygain. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantio, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'). Sylwer hefyd nad oedd 'carol' yn golygu'r yn peth yn union ag y mae heddiw ; enw ar fath o gerdd draethiadol, gan amlaf ar y mesurau rhydd, ydyw 'carol' a cheir enghreifftiau o garolau seciwlar hefyd, e.e. y carolau haf. Er y gellid galw y carolau plygain yn "garolau Nadolig" felly, mae eu naws yn bur wahanol i'r carolau Nadolig sy'n gyfarwydd i ni heddiw.

Enghreifftiau o garolau Plygain[golygu | golygu cod]

Prif garol y Plygain ydy'r olaf yn y gwasanaeth, sef Carol y Swper.

Sain[golygu | golygu cod]

  • Parti'r Berfeddwlad yn canu 'Clywch Clywch Newyddion Gorau'
  • Parti o Lanrwst yn canu 'Daeth Nadolig fel Arferol'
  • Parti o Lanrwst yn canu 'Dyma'r dydd y ganed Iesu'
  • Triawd o Lanfair Dyffryn Clwyd yn canu 'Deffrown Deffrown!'
  • Hogia'r Berfeddwlad yn canu 'Pan oedd y Baban Iesu'.
  • Hedd ap Emlyn a Robin Llwyd ab Owain yn canu 'Tramwywn ar Gyflym adenydd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]