Sgwrs:Carol plygain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Carol(au)[golygu cod]

Llywelyn, fy hen gyfaill, mae'n rhaid i mi anghytuno â'r symud o 'Carol Plygain' i 'Carolau plygain' a hynny am ddau reswm:

Yn un peth, wrth gwrs roeddent i'w cael yn unigol - wyt ti ddim yn meddwl bod yr awduron yn eistedd i lawr i'w cyfansoddi fesul dwsin?! Mae gen i nifer o engreifftiau yn llyfr Jonathan Huws, sef Bardd y Byrddau, sy'n cynnwys sawl testun gyda theitlau fel 'Carol Plygain ar Gwêl yr Adeilad...' a.y.y.b. Dydi'r ffaith eu bod yn cael eu canu gyda'i gilydd ddim yn newid hynny.

Yn ail, mae'n arfer defnyddio enw unigol oni bai fod rheswm da dros beidio wneud, e.e. Salm yn hytrach na Salmau (yr eithriad amlwg ydy grŵp o bobl, e.e. Beirdd yr Uchelwyr byth "Bardd yr Uchelwyr"(!), am resymau digon amlwg, ond bardd am unigolyn sy'n cyfansoddi barddoniaeth).

Dwi'n awgrymu symud hyn yn ôl felly. Anatiomaros 22:36, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Ti'n iawn. Yr hyn ro'n i'n ei olygu gyda'r unigol vs lluosog oedd nad un a genid gynt yn y plygain, eithr llu ohonynt. Mi driais deirgwaith yn gynharach (tra'n ychwanegu at 'Y Nadolig') ddarganfod a oedd unrhyw beth ar gael am y plygain. Methais oherwydd y geiriad! Yr unigol yw: carol y blygain (neu 'garol blygain') ond yn sicr nid 'carol plygain', ac roedd symud i'r ddau ffurf unigol a chywir yma'n mynd drwy fy meddwl. Croeso i ti ei newid, wrth gwrs. Ond y lluosog a ddefnyddir fynychaf! (fel gyda 'tiwbiau ffalopaidd' neu 'bodau byw'!)
I hwyluso'r chwilio, efallai y dylem lunio tudalen ailgyfeirio yn unswydd ar gyfer y geiriau / termau lluosog! Dwi wedi gwneud hyn ambell dro. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r darllenydd o fewn ein golwg drwy'r amser, os ydym am lwyddo.
Llywelyn2000 22:59, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wyt ti'n iawn fod pobl yn tueddu i gyfeirio atyn nhw yn y lluosog, wrth gwrs, ond mae hynny'n wir am bethau eraill fel 'cywyddau' hefyd. Ond roeddent ar gael yn argraffedig - un carol plygain yng nghanol testunau eraill efallai, a doedd pob carol plygain ddim yn cael eu canu 'run pryd, chwaith, neu fasai'n wasanaeth hynod o hir! Gyda llaw, carol plygain (hefo neu heb y 'P' fawr) yw'r term safonol (yn llyfrau'r cyfnod, e.e. yr enghraifft uchod, ac yn Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd). (Mae 'plygain' yn "enw gwrywaidd benywaidd" lluosog hefyd, un o'r geiriau od 'na).
Dwi ddim yn siwr be sy gen ti mewn golwg gyda 'tudalen ailgyfeirio yn unswydd ar gyfer y geiriau / termau lluosog' gan fod ailgyfeirio 'beirdd' i 'bardd' ac ati yn gwneud y gwaith yn barod. Ynte fi sy'n camddeall, "hen geiliog" fel yr ydwyf(?!). Gwell i ni beidio a cholli rhagor o blu dros hyn, beth bynnag - mae 'na bethau pwysicach i'w wneud! Anatiomaros 23:24, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
'Y blygen' (benywaidd) dwi 'di glywed fwya amal, ond mi rwyt ti'n iawn, gair deuryw ydy o! Hifin-hafan o beth!
Parthed y lluosog: pe bae'r darllenydd yn chwilio / teipio 'carolau plygain' ni fyddai'n ffindio 'carol plygain' oni bai ein bod ni'n creu tudalennau ailgyfeiro o'r lluosog i'r unigol (ia, gyda phob gair / erthygl unigol ar Wici!) NEU cyfarwyddyd i'r darllenydd deipio'r unigol BOB tro.
Ond, fel y dywedi - ymlaen!!! Neu mi ganith y blicin ceiliog!Llywelyn2000 23:35, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
A, dwi'n deall. Wrth gwrs dylai hynny gael ei wneud bob tro, ond mae pobl (fel fi!) yn tueddu i anghofio. Diolch am yr ychwanegiadau diddorol, rhywbeth digon 'ffwrdd a hi' oedd hyn i ddechrau, mond i lenwi un o'r dolenni coch digywilydd 'na! Gyda llaw, roeddwn i'n siwr mai pullicantio sy'n cael ei dderbyn fel tarddiad gwreiddiol y gair plygain ; efallai fod yr ail ystyr wedi datblygu yn nes ymlaen? Rhaid i mi chwilio eto, ond dim heno. Anatiomaros 23:53, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]