Llanfair Dyffryn Clwyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfair Dyffryn Clwyd
Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun Ruthin 15.JPG
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.089°N 3.294°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000163 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ133554 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Darren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au David Jones (Ceidwadwr)
Y pentref o'r dwyrain (o gyfeiriad Moelydd Clwyd)

Pentref a chymuned yn Nyffryn Clwyd tua dwy filltir i'r de o dref Rhuthun yn ne Sir Ddinbych yw Llanfair Dyffryn Clwyd("Cymorth – Sain" ynganiad ).

Mae'n bentref tawel mewn lleoliad gwledig ond rhed yr A525 trwyddo; mae o fewn tafliad carreg i Afon Clwyd. Mae nifer o'r tai wedi'u hadeiladu o garreg lwyd y fro, gan gynnwys yr hen ysgol a rhes o elusendai sy'n dyddio o ganol y 19g

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ger y pentref ceir Crug Cefn Coch, crug crwn llydan iawn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.

Tua chan metr o'r pentref, ar un o gaeau Plas Newydd, ceir olion teml Rufeinig, sydd wedi'i chofrestru gyda Cadw; cyfeiriad grid SJ137557.[3]

Mae'r eglwys yn bur hynafol ac yn gysegredig i Gynfarch Sant a Mair. Mae rhannau ohoni yn dyddio o'r 14g. Ceir chwareli prin o wydr lliw canolesol mewn un o'r ffenestri deheuol. Y tu mewn i'r eglwys cedwir nifer o feddfeini canoloesol, un ohonyn nhw'n gerfiedig.

Tua milltir i'r de o'r pentref saif Capel yr Iesu, a godwyd yn 1619-1623 a'i atgyweirio yn y 18g. Hefyd yn y pentref, ceir tafarn hanesyddol, sef 'Y Ceffyl Gwyn'.

Pobl o Lanfair Dyffryn Clwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd (pob oed) (1,053)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Dyffryn Clwyd) (488)
  
47.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Dyffryn Clwyd) (632)
  
60%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Dyffryn Clwyd) (147)
  
32.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Data Cadw
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.