Cefn Meiriadog
![]() | |
Math |
cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.2°N 3.5°W, 53.23701°N 3.48551°W, 53.2°N 3.5°W ![]() |
Cod SYG |
W04000145 ![]() |
Cod OS |
SJ007725 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ann Jones (Llafur) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw'r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i'r de-orllewin o dref Llanelwy, a heb fod ymhell o Ogof Bontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o weddillion dynol hynaf yng Nghymru. Ceir beddrod o'r cyfnod Neolithig gerllaw.
Dywedir i'r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5g. Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau clwyfau. Bu'r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw.
Eglwys y Santes Fair, Cefn[golygu | golygu cod y dudalen]
Tua 300 metr i'r de-ddwyrain o'r gaer 'Bryn y Cawr' ar Fryn Meiriadog saif eglwys fechan y Santes Fair, sy wedi'i chofrestru'n adeilad Gradd II.[1] Cafodd y cerrig eu cloddio o dir lle saif yr eglwys; fe'i hagorwyd a chysegrwyd yr eglwys ar 3 Medi 1864 gan yr Esgob Short, Llanelwy. Crëwyd y plwyf newydd "Cefn" ar 7 Chwefror 1865. Roedd yn cynnwys y ddwy drefgordd: Wigfair a Meiriadog (y ddwy yn Sir Ddinbych), a oedd tan hynny wedi bod ym mhlwyf Llanelwy.
Yr olygfa i'r gogledd-ddwyrain - cyfeiriad y Rhyl a Phrestatyn
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dewi Roberts The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch. 1999) ISBN 0-86381-562-6
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion