Efenechtyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Efenechtyd
Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Efenechtyd, Sir Ddinbych 01.JPG
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0915°N 3.3285°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Darren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au David Jones (Ceidwadwr)

Pentref bychan, plwyf a chymuned yn Sir Ddinbych yw Efenechtyd (SJ1155), weithiau Efenechdyd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r de o dref Rhuthun. Mae yma garreg a elwir 'maen camp', sy'n cael ei chadw yn yr eglwys a pharheir gyda'r hen drawddodiad o'i daflu mewn cystadleuaeth.

Maen camp, yn yr eglwys leol.
Eglwys Efenechtyd.

Credir fod yr enw'n dod o "mynechdid", yn awgrymu cysylltiad â mynachdy. Y sillafiad yn 1254 oedd Y Fenechtid (Eccla de Wenechdit);[1] roedd adeiadau'n perthyn i fynachty yma hyd at y 16g pan drowyd yr adeilad yn fferm laeth. Mae'n bosib fod cysylltiad agos gydag Abaty Glyn y Groes neu Sant Saeran, Llanynys.

Gerllaw mae Tŷ Brith, cartref y bardd ac athro barddol Simwnt Fychan (c. 1530 - 1606) a pherthyn Bryn-llan i'r 17g.

Treuliodd yr hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin Gymreig, Elias Owen (1833-1899) rhan olaf ei oes yn rheithor Efenechtydd.

Eglwys Sant Mihangel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r fynwent gron a’i choed yw yn nodweddiadol o’i thras Geltaidd ac mae’n bosib i’r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu gan fynachod o gymuned Sant Saeran yn Llanynys: gallai’r enw ‘Efenechtyd’ olygu ‘lle’r mynachod’ (gweler uchod). Mae’r adeilad presennol – sy’n ddim ond ugain troedfedd o led, a’r eglwys ail leiaf yn esgobaeth Llanelwy – yn dyddio o’r 13g mwy na thebyg, ond fe’i adferwyd yn sylweddol ym 1873.

Cysegrir yr eglwys i Sant Mihangel a'r Holl Angylion, ac mae'r bedyddfaen pren oddi mewn iddi'n ddiddorol gan ei bod wedi'i cherfio allan o un darn o dderw ac yn deillio'n ôl i'r 15fed neu’r 16g. Mae’r rheilen furfylchog isel, sydd ger yr allor ac sy’n dyddio o ddiwedd yr oesoedd canol, yn rhan o groglen, ond mae’r ffenestr ddwyreiniol yn hŷn ac efallai’n dyddio o tua 1300.

Cofeb i Catherine Lloyd.

Ymhlith nodweddion eraill o bwys sy’n perthyn i gyfnod diweddarach y mae darnau prin o furlun Cymreig o’r Deg Gorchymyn (o’r cyfnod Elisabethaidd neu Jacobeaidd) a chofeb pren i Catherine Lloyd (1810) sy’n cynnwys ceriwbiaid a phenglog ac esgyrn croes. Mae’r gofeb Sioraidd i Joseph Conway’n cynnwys arfbais deuluol ‘dyn du’: gwelir pennau tebyg ar gatiau ei dy (preifat), Plas-yn-Llan, ychydig gamau o giât yr eglwys. Enw’r garreg gron ger y fedyddfaen yw ‘Maen Camp’, a ddefnyddid gynt mewn ‘campau’ neu chwaraeon lleol ar Ddydd Sant Mihangel, 29ain Medi. Arferai Samsoniaid y pentref ymdrechu i’w thaflu’n ôl dros eu pennau.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Efenechtyd (pob oed) (655)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Efenechtyd) (349)
  
54.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Efenechtyd) (432)
  
66%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Efenechtyd) (68)
  
27.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan CPAT; adalwyd 6 Mai 2014.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.


CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato