Tafarn-y-Gelyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tafarn-y-Gelyn
Pwll Tafarn-y-Gelyn Pond - geograph.org.uk - 308587.jpg
Math Pentref, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.14°N 3.21°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ188618 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Darren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au David Jones (Ceidwadwr)

Pentref bychan iawn yn nwyrain canolbarth Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Tafarn-y-Gelyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar ffordd yr A494 tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r dwyrain a Rhuthun i'r gorllewin.

I'r gorllewin o Dafarn-y-Gelyn mae hen lôn yn codi i groesi Bwlch Pen Barras (551m) ym Mryniau Clwyd, rhwng Moel Famau a Moel Fenlli. Dyma'r hen lôn rhwng Dyffryn Clwyd a'r Wyddgrug cyn i'r A494 gael ei adeiladau. Mae'n dod allan yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014


CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato