Llanfwrog, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Llanfwrog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1073°N 3.3234°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ113575 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Plwyf eglwysig yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Llanfwrog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o ganol tref Rhuthun, yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd ar y ffordd B5105 sy'n cysylltu Rhuthun a Cherrigydrudion. Pentref ar wahân fu Llanfwrog tan yn ddiweddar, ond gyda chodi tai newydd rhyngddo a Rhuthun mae'r pentref wedi troi'n fath o faesdref i'r dref honno erbyn heddiw.

Eglwys plwyf Llanfwrog gyda Bryniau Clwyd yn y cefndir.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant Mwrog (6g efallai). Cysylltir y sant hwnnw â Llanfwrog arall ar Ynys Môn hefyd. Mae'r eglwys, a gysegrir i Fwrog a'r Forwyn Fair, yn hynafol. Saif ar godiad tir ger y B5105. Mae ganddi dŵr sgwâr o gerrig calchfaen yn ei phen gorllewinol a addurnir a meini tywodfaen coch. Ceir corff (nave) dwbl, ffurf sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth hen eglwysi Dyffryn Clwyd. Ychwanegwyd yr ail yn y 14g.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. North Wales yn y gyfres 'Traveller's Guides' (Dartman, Longman a Todd, d.d.), tud. 67.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014