Clocaenog

Oddi ar Wicipedia
Clocaenog
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth254 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,413.52 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000146 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ082542 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, ydy Clocaenog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif 3.5 milltir i'r de o dref Rhuthun.

Ynddi mae ysgol gynradd ac Eglwys Sant Trillo. Gerllaw mae Coedwig Clocaenog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Yn agos iawn i’r pentref gellir dod o hyd i Garreg Clocaenog sydd yn adnabyddus am fod yn un o’r enghreifftiau prin o gerrig a chanddi ysgrifen Ladin ac Ogham arni sydd heb gael ei symud i amgueddfa.

Fferm ar gwr Clocaenog

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Clocaenog (pob oed) (254)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Clocaenog) (135)
  
54.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Clocaenog) (164)
  
64.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Clocaenog) (12)
  
12.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato